Pwynt bonws i'r Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Y Gweilch yn ceisio rhwystro Chris FusaroFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Scarlets 38-10 Connacht (nos Wener)

Mae gobeithion y Scarlets o orffen yn y pedwar uchaf yn parhau ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Connacht.

Fe wnaeth Andy Fenby a Rhodri Jones groesi'r llinell yn yr hanner cynta gan sicrhau mantais o 17-3 i'r tîm cartref ar yr egwyl.

Daeth dau gais arall, gan Emyr Phillips a Kieran Murphy, i sicrhau'r pwynt bonws.

Ychwanegodd Stephen Jones 13 o bwyntiau.

Daeth cais cysur gan Ethienne Reynecke i Connacht cyn i Phil John groesi am bumped cais y Scarlets gyda symudiad ola'r gêm.

Scarlets: Dan Newton; Liam Williams, Gareth Maule (capt), Adam Warren, Andy Fenby; Stephen Jones, Liam Davies; Rhodri Jones, Emyr Phillips , Deacon Manu, Lou Reed, Aaron Shingler, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Kieran Murphy.

Eilyddion: Kirby Myhill, Phil John, Peter Edwards, Dominic Day, Mat Gilbert, Gareth Davies, Nick Reynolds, Viliame Iongi.

Connacht: Gavin Duffy (capt); Fetu'u Vainikolo, Eoin Griffin, Dave McSharry, Tiernan O'Halloran; Miah Nikora, Frank Murphy; Ronan Loughney, Adrian Flavin, Peter Borlase, Michael Swift, Mick Kearney, Dave Heffernan, Ray Ofisa, George Naoupu.

Eilyddion: Ethienne Reynecke, Denis Buckley, Stewart Maguire, John Muldoon, Eoghan Grace, Dave Moore, Matthew Jarvis, Kyle Tonetti.

Gweilch 20-26 Glasgow (nos Wener)

Er gwaethaf ymdrechiion funud olaf y Gweilch fe wnaeth Glasgow sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Stadiwm Liberty.

Hanno Dirksen sgoriodd gyntaf, ond fe wnaeth John Walsh a Colin Shaw groesi i sicrhau mantais o 20-10 i Glasgow ar yr egwyl.

Fe wnaeth dwy gic gosb gan Rory Jackson ymestyn mantais yr ymwelwyr er i ddau o'u chwaraewyr dderbyn cardiau melyn.

Kahn Fotuali'i sgoriodd ail gais y Gweilch ond daliodd amddiffyn Glasgow yn gadarn.

Gweilch: Ross Jones, Hanno Dirksen, Andrew Bishop, Ashley Beck, Eli Walker; Dan Biggar, Rhys Webb; Ryan Bevington, Richard Hibbard, Joe Rees, Ian Gough, James King, Tom Smith (capt), Sam Lewis, Joe Bearman.

Eilyddion: Scott Baldwin, Will Taylor, Aaron Jarvis, Jonathan Thomas, George Stowers, Kahn Fotuali'i, Matthew Morgan, Tom Isaacs.

Glasgow: Peter Murchie, David Lemi, Alex Dunbar, Federico Aramburu, Colin Shaw, Ruaridh Jackson, Henry Pyrgos, Ryan Grant, Dougie Hall, Jon Welsh, Tom Ryder, Al Kellock (capt), Calum Forrester, Chris Fusaro, Ryan Wilson.

Eilyddion: Pat MacArthur, Gordon Reid, Ed Kalman, Rob Verbakel, Scott Wight, Murray McConnell, Johnnie Beattie, Tommy Seymour.

Mawrth 2 2012