Asiantaethau 'wedi osgoi trychineb'

  • Cyhoeddwyd
Cyn gartref Lisa Brooks a Tomas Lewis, sydd wedi cael eu carcharuFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cyn gartref Brooks a Lewis sydd wedi cael eu carcharu

Mae pennaeth gwasanaethau amddiffyn plant wedi dweud bod asiantaethau lleol wedi helpu osgoi trychineb.

Cafodd mam bachgen a'i phartner eu carcharu oherwydd "cam-drin ofnadwy".

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Lisa Brooks, 25 oed, a Tomas Rhys Lewis, 22 oed, wedi cadw'r bachgen tair oed mewn "amgylchiadau ofnadwy".

Cafodd Brooks dair blynedd o garchar a Lewis dair blynedd a hanner.

Dywedodd Sue Evans, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Torfaen: "Mae amddiffyn plant yn heriol iawn ... roedd yr achos hwn yn gymhleth tu hwnt ac yn y pen draw, yr asiantaethau lwyddodd i osgoi trychineb."

Mae'r bwrdd wedi cynnal ymchwiliad i'r achos ac er nad yw'r adroddiad llawn wedi cael ei ryddhau, mae'r cyngor yn mynnu bod sawl asiantaeth wedi dechrau gweithredu nifer o argymhellion.

Dywedodd yr heddlu fod yr esgeulustod "dychrynllyd" yn y cartre yn Nhref-ddyn ger Pont-y-pŵl.

Clywodd y llys fod cyflwr y bachgen mor ddifrifol nes ei fod wedi ceisio bwyta ei wallt.

Cell

Daeth gweithwyr cymdeithasol a'r heddlu o hyd i'r bachgen yn y tŷ yn Nhorfaen ddechrau mis Rhagfyr 2010.

Roedd y bachgen yn cael ei gadw dan-glo mewn ystafell wely oedd yn fwy tebyg i gell. Doedd dim golau yn yr ystafell ac er ei bod hi'n bwrw eira tu allan pan ddaeth gweithwyr cymdeithasol o hyd iddo, doedd 'na ddim gwres yn yr ystafell.

Roedd ganddo anafiadau ar hyd ei gorff - cleisiau ar ei freichiau am ei fod yn cael ei glymu i'w wely, dwy lygad ddu ac roedd mor llwglyd nes ei fod wedi rhwygo'i wallt o'i wreiddiau ac wedi ceisio ei fwyta.

Roedd yn dioddef o hypothermia a diffyg hylif. Yn ôl nyrs roddodd driniaeth iddo yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni, petai wedi cyrraedd oriau yn ddiweddarach fe fyddai wedi marw.

Enwi'r ddau

Penderfynodd y barnwr fod y cyfryngau yn cael enwi'r ddau fu'n ei gam-drin a hynny am fod y bachgen bellach wedi cael ei fabwysiadu.

Dywedodd Brooks a Lewis wrth yr heddlu eu bod nhw wedi rhoi'r bachgen yn yr ystafell am ei fod yn anafu ei hun yn aml a'u bod nhw'n poeni y byddai'n brifo'u babi hefyd.

Roedd un o'r cyfreithwyr yn dadlau nad oedd y pâr yn gallu ymdopi ond plediodd y ddau yn euog i gyhuddiad o esgeuluso plentyn.

Dywedodd y barnwr fod eu gweithredoedd yn sadistaidd.

Bydd haid iddyn nhw dreulio hanner y cyfnod o dan glo cyn y byddan nhw'n cael gwneud cais am barôl.

Cyhoedd

Aelod o'r cyhoedd ffoniodd y gwasanaethau cymdeithasol i ddatgan eu pryderon ynglŷn â'r plentyn.

Mae Heddlu Gwent wedi croesawu'r dedfrydau.

Mewn datganiad mae'r elusen NSPCC Cymru wedi dweud nad ywy'r achos yn unigryw a'u bod nhw'n "erfyn ar unrhyw un sy'n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, neu'r NSPCC".