Crys hanesyddol yn aros yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
Crys Seland Newydd o 1905Ffynhonnell y llun, BBC news online
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r crys yn dyddio'n ôl i 1905

Er gwaetha ymateb o Awstralia a Seland Newydd, mae clwb yn gobeithio y bydd crys rygbi hanesyddol yn aros yng Nghymru.

Bydd crys Tîm Seland Newydd sy'n dyddio'n ôl i 1905 yn cael ei werthu er mwyn ceisio achub Clwb Rygbi Tycroes yn Nyffryn Aman.

Y gred yw bod y crys, gafodd ei wisgo gan y tîm cyntaf o Seland Newydd i chwarae ym Mhrydain, yn werth £10,000.

Mae'r clwb rygbi ger Rhydaman yn dathlu eu canmlwyddiant y tymor hwn ond mewn perygl o fynd i'r wal oherwydd dyledion o tua £9,000.

"Wy wedi synnu at yr ymateb i werthu'r crys," meddai Clive Hanham, aelod o bwyllgor y clwb.

"Ma' pobol wedi dangos diddordeb yn Awstralia a Seland Newydd ond ma' dyn o dde Cymru hefyd wedi cysylltu â ni.

"Wy'n gobeithio y bydd y crys yn sefyll yng Nghymru."

Y gred yw mai dim ond wyth o grysau tîm 1905 Seland Newydd, yr Originals, sydd ar ôl.

"... ro'dd yna deimlade cryf yn erbyn gwerthu'r crys," meddai Clive.

'Trysor'

"Ma'n un o drysore'r clwb ond os nad yw e'n cael ei werthu fe allwn fynd i'r wal.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Dave Gallaher oedd capten Seland Newydd yn 1905

"Ac oherwydd ei werth ro'dd e'n rhy ddrud i ga'l ei arddangos felly mae wedi bod mewn yn y banc am hyd at beder blynedd."

Yn 1905 Cymru oedd yr unig dîm i drechu Seland Newydd ar eu taith gyntaf i Brydain.

Enillodd Cymru o 3-0.

Cafodd y crys ei wisgo yn y gêm yn erbyn Abertawe, gyda'r Originals yn ennill 4-3 yn eu gêm olaf o'r daith.

Cyn-aelod o'r pwyllgor sydd bellach wedi marw roddodd y crys i Glwb Tycroes.

Cyngerdd

Mae problemau ariannol y clwb yn deillio'n bennaf o ganlyniad i gyngerdd na chafodd ei chynnal yn 2011.

Fe wnaeth y clwb dalu £5,000 asiant oedd yn honni ei fod yn gallu denu un o sêr cerddoriaeth bop y byd i Dycroes i ganu.

Roedd yr asiant, Paul Johnson, wedi dweud y byddai'n perswadio'r artist, Alexandra Burke i berfformio.

Ond doedd yr artist ddim wedi derbyn unrhyw wahoddiad.

Yn ogystal â'r blaendal roedd y clwb wedi gwario miloedd ar drefnu'r noson.

Mae Mr Johnson wedi ad-dalu £2,500 ond mae'n dweud fod gweddill yr arian yn nwylo un o'i bartneriaid.