Ymosodiad: Arestio tri
- Cyhoeddwyd

Roedd yr heol ynghau fore Sadwrn
Mae tri wedi eu harestio wedi ymosodiad honedig nos Wener.
Aed â dyn i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd wedi ffrwgwd yn Heol Romilly, Treganna, Caerdydd, a'r gred yw bod ei anafiadau'n ddifrifol.
Cafodd yr heddlu eu galw am 11:08pm.
Roedd yr heol ynghau fore Sadwrn wrth i'r heddlu ymchwilio.