Chwilio am yrrwr car glas
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio i farwolaeth gyrrwr moped, wedi gofyn i yrrwr Ford Focus glas tywyll gysylltu â nhw.
Yng Nghastell-nedd fore Mercher roedd gwrthdrawiad rhwng y moped coch a'r car wrth gyffordd Heol Cimla a Heol Parc y Gnoll.
Dywedodd yr heddlu fod gyrrwr y Ford Focus wedi dadlau cyn gyrru i ffwrdd.
Wedyn roedd gwrthdrawiad yn Heol yr Ysgol ychydig cyn 11am rhwng y moped a Ford Fiesta a bu farw gyrrwr 34-oed y moped.
Dylai tystion ffonio 101.