Kirsty Williams yn beirniadu 'diffyg uchelgais' Llafur

  • Cyhoeddwyd
Kirsty WilliamsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Soniodd Kirsty Williams am ddylanwad ei phlaid yn y Cynulliad

Yn eu cynhadledd wanwyn mae Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, wedi beirniadu "diffyg uchelgais" y Blaid Lafur.

"Dyw Llafur ddim wedi gwireddu addewidion refferendwm y llynedd," meddai "hynny yw hybu pwerau'r Cynulliad.

"O dan Lafur mae busnesau, cleifion a disgyblion ar eu hôl hi." Cyhuddodd Lywodraeth y Cynulliad o "ddiffyg uchelgais, dychymyg ac unrhyw ymdeimlad o frys".

Beirniadodd benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesur yn ymwneud ag isddeddfau llywodraeth leol, y darn cynta o ddeddfwriaeth wedi'r refferendwm ar fwy o bwerau.

"Prin bod hwn yn gam mawr ymlaen," meddai.

Soniodd am ddylanwad ei phlaid yn y Cynulliad ac mewn llywodraeth leol wrth helpu teuluoedd oedd yn ei chael hi'n anodd.

£450

Yn y Cynulliad fe gefnogodd y blaid gyllideb y llywodraeth Lafur leiafrifol yn gyfnewid am arian at addysg rhai o blant tlotaf Cymru.

Bydd ysgolion yng Nghymru yn derbyn £450 am bob plentyn ysgol sy'n cael cinio ysgol am ddim ar ôl i'r Democratiaid Rhyddfrydol daro bargen i gefnogi'r gyllideb ym mis Tachwedd.

Dywedodd Kirsty Williams fod hyn "wedi sicrhau bod plant o'r cefndiroedd tlotaf yn cael y cymorth maen nhw'n ei haeddu."

Yn ei araith ddydd Sadwrn dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, eu bod nhw eisiau gwneud "miliwn o bobl Cymru yn well eu byd."

Ond cyfaddefodd nad oedd yna "ffon hud fyddai'n gwella popeth dros nos".

Pwysleisiodd fod y blaid mewn clymblaid gyda'r Ceidwadwyr eisoes wedi torri'r dreth incwm ac yn "rhoi help llaw, ymarferol mewn cyfnod anodd".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol