Wigan 0 Abertawe 2

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionSgoriodd Gylfi Sigurdsson ddwy gôl

Mae Abertawe wedi trechu Wigan o 2-0 wrth geisio diogelu eu lle yn yr Uwchgynghrair.

Sgoriodd Gylfi Sigurdsson ddwy gôl, un arbennig o 20 llath ychydig cyn yr egwyl a chic rydd drawiadol o 25 llath. Doedd dim gobaith caneri gan y golgeidwad, Ali Al Habsi.

Hon oedd eu trydedd buddugoliaeth oddi cartre.

Dangosodd yr Elyrch eu bod yn llawn hyder, yn llawn cymeriad wrth basio'r bêl yn sydyn a chreu cyfleoedd.

Ond roedd Wigan yn siomedig iawn. Dim ond unwaith y maen nhw wedi ennill gartre yn Stadiwm DW y tymor hwn.

Cafodd Nathan Dyer o Abertawe ei anfon o'r cae ar ôl awr.

Straeon perthnasol