Kettering 0 Wrecsam 1
- Cyhoeddwyd

Kettering 0-1 Wrecsam
Roedd hon yn fuddugoliaeth allweddol i Wrecsam a aeth ar y blaen wedi 23 munud oherwydd cic rydd Jamie Tolley.
Y Cymry oedd yn rhedeg y sioe yn yr hanner cynta a tharodd Mathias Pogba y traws. Gwastraffodd Jake Speight gyfle euraidd.
Kettering oedd â'r llaw ucha yn yr ail hanner ond heriodd Wrecsam y llanw.
Wrexham are five points behind leaders Fleetwood, who won 3-0 at Tamworth, but the Welsh side have a game in hand.
Mae Wrecsam bum pwynt tu ôl i Fleetwood, sy ar y brig ac a drechodd Tamworth o 3-0, ond mae gan y Cymry un gêm wrth gefn.
Southport 1-1 Casnewydd
Mae adfywiad Casnewydd yn para wrth ennill pwynt oddi cartre yn Southport.
Y tîm cartre aeth ar y blaen wedi 18 munud am fod Gary Warren yn taro'r bêl i mewn i'w rwyd ei hun.
Bum munud cyn yr eglwyl tarodd Ismail Yakubu yn ôl wedi cic gornel ddestlus.
Cafodd Andrew Hughes gerdyn coch yn gynnar yn yr ail hanner ond llwyddodd Casnewydd i ddisgyblu eu hunain.
Adfywiad yn para ond Casnewydd yn llithro un safle, yn 17fed.