Dau gais yn hwb i'r Gleision
- Cyhoeddwyd

Treviso 13-20 Gleision (ddydd Sadwrn)
Cais Martyn Williams a Harry Robinson yn yr hanner cynta oedd yr hwb i'r Gleision wrth drechu'r Eidalwyr yn Stadio Comunale di Monigo.
Trosodd Dan Parks ddwywaith cyn cicio dwy gic gosb.
Willem De Waal giciodd gic gosb i'r tîm cartre cyn i'w gydchwaraewyr, Simon Picone a Brendan Williams groesi'r llinell.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod mwy o fwlch cyn y Gleision a'r Eidalwyr ond maen nhw'n dal yn seithfed yn y Pro 12.
Treviso: Ludovico Nitoglia; Benjamin De Jager, Tommaso Iannone, Andrea Pratichetti, Brendan Williams; Willem De Waal, Fabio Semenzato (capten); Ignacio Fernandez Rouyet, Diego Vidal, Pedro Di Santo, Francesco Minto, Corniel Van Zyl, Manoa Vosawai, Marco Filippucci, Gonzalo Padrò.
Eilyddion: Enrico Ceccato, Augusto Allori, Carlo Fazzari, Valerio Bernabò, Enrico Pavanello, Simon Picone, Ezio Galon, Alberto Di Bernardo.
Gleision: Ben Blair; Richard Mustoe, Gavin Evans, Ceri Sweeney, Chris Czekaj; Dan Parks, Richie Rees; Sam Hobbs, Rhys Thomas, Scott Andrews, Cory Hill, Paul Tito (capten), Michael Paterson, Xavier Rush, Martyn Williams.
Eilyddion: Ryan Tyrell, John Yapp, Ryan Harford, Macauley Cook, Ma'ama Molitika, Lewis Jones, Harry Robinson, Tom James.
Dreigiau 14-24 Munster (ddydd Sadwrn)
Llwyddodd Munster i gyrraedd yr ail safle wedi iddyn nhw drechu'r Dreigiau yn Rodney Parade.
Roedd y Dreigiau ar y blaen o 11-9 ar yr egwyl oherwydd cais y capten Ashley Smith oedd wedi ffugbasio'n bert cyn deifio dros y llinell.
Sgoriodd y Gwyddelod 15 o bwyntiau yn y 12 munud ola sy'n golygu eu bod yn uwch na'r Gweilch yn y tabl.
Y newyddion da, Luke Charteris yn chwarae ei gêm gynta ers mwy na phedwar mis ac yn barod i roi hwb i Gymru
Dreigiau: Will Harries; Tonderai Chavhanga, Andy Tuilagi, Ashley Smith (capten), Aled Brew; Lewis Robling, Wayne Evans; Nathan Williams, Steve Jones, Nathan Buck, Luke Charteris, Rob Sidoli, Jevon Groves, Lewis Evans, Tom Brown.
Eilyddion: Jack Dixon yn lle Tuilagi (46), Phil Price yn lle N. Williams (54), Sam Parry yn lle S. Jones (78).
Munster: Felix Jones, Luke O'Dea, Save Tokula, Lifeimi Mafi, Johne Murphy; Ian Keatley, Tomas O'Leary; Marcus Horan, Denis Fogarty, Simon Archer; Dave Foley, Mick O'Driscoll (capten); Dave O'Callaghan, Tommy O'Donnell, James Coughlan.
Eilyddion: Denis Hurley yn lle Murphy (57), Scott Deasy yn lle Keatley (53), Duncan Williams yn lle O'Leary (69), Wian du Preez yn lle Horan (53), Mike Sherry yn lle Fogarty (53), BJ Botha yn lle Archer (64), Billy Holland yn lle Foley (64), Patrick Butler yn lle O'Donnell (77).
Scarlets 38-10 Connacht (nos Wener)
Mae gobeithion y Scarlets o orffen yn y pedwar uchaf yn parhau ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Connacht.
Fe wnaeth Andy Fenby a Rhodri Jones groesi'r llinell yn yr hanner cynta gan sicrhau mantais o 17-3 i'r tîm cartref ar yr egwyl.
Daeth dau gais arall, gan Emyr Phillips a Kieran Murphy, i sicrhau'r pwynt bonws.
Ychwanegodd Stephen Jones 13 o bwyntiau.
Daeth cais cysur gan Ethienne Reynecke i Connacht cyn i Phil John groesi am bumped cais y Scarlets gyda symudiad ola'r gêm.
Scarlets: Dan Newton; Liam Williams, Gareth Maule (capt), Adam Warren, Andy Fenby; Stephen Jones, Liam Davies; Rhodri Jones, Emyr Phillips , Deacon Manu, Lou Reed, Aaron Shingler, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Kieran Murphy.
Eilyddion: Kirby Myhill, Phil John, Peter Edwards, Dominic Day, Mat Gilbert, Gareth Davies, Nick Reynolds, Viliame Iongi.
Connacht: Gavin Duffy (capt); Fetu'u Vainikolo, Eoin Griffin, Dave McSharry, Tiernan O'Halloran; Miah Nikora, Frank Murphy; Ronan Loughney, Adrian Flavin, Peter Borlase, Michael Swift, Mick Kearney, Dave Heffernan, Ray Ofisa, George Naoupu.
Eilyddion: Ethienne Reynecke, Denis Buckley, Stewart Maguire, John Muldoon, Eoghan Grace, Dave Moore, Matthew Jarvis, Kyle Tonetti.
Gweilch 20-26 Glasgow (nos Wener)
Er gwaethaf ymdrechion munud olaf y Gweilch fe wnaeth Glasgow sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Stadiwm Liberty.
Hanno Dirksen sgoriodd gyntaf, ond fe wnaeth John Walsh a Colin Shaw groesi i sicrhau mantais o 20-10 i Glasgow ar yr egwyl.
Fe wnaeth dwy gic gosb gan Rory Jackson ymestyn mantais yr ymwelwyr er i ddau o'u chwaraewyr dderbyn cardiau melyn.
Kahn Fotuali'i sgoriodd ail gais y Gweilch ond daliodd amddiffyn Glasgow yn gadarn.
Gweilch: Ross Jones, Hanno Dirksen, Andrew Bishop, Ashley Beck, Eli Walker; Dan Biggar, Rhys Webb; Ryan Bevington, Richard Hibbard, Joe Rees, Ian Gough, James King, Tom Smith (capt), Sam Lewis, Joe Bearman.
Eilyddion: Scott Baldwin, Will Taylor, Aaron Jarvis, Jonathan Thomas, George Stowers, Kahn Fotuali'i, Matthew Morgan, Tom Isaacs.
Glasgow: Peter Murchie, David Lemi, Alex Dunbar, Federico Aramburu, Colin Shaw, Ruaridh Jackson, Henry Pyrgos, Ryan Grant, Dougie Hall, Jon Welsh, Tom Ryder, Al Kellock (capt), Calum Forrester, Chris Fusaro, Ryan Wilson.
Eilyddion: Pat MacArthur, Gordon Reid, Ed Kalman, Rob Verbakel, Scott Wight, Murray McConnell, Johnnie Beattie, Tommy Seymour.