Bangor yn baglu
- Cyhoeddwyd

Mae'n dynnach nag erioed ar frig Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru wrth i Gastell-nedd ennill yn Nantporth yn erbyn Bangor ddydd Sadwrn.
Mae'r fuddugoliaeth wedi dod â'r crysau duon o fewn pedwar pwynt i'r pencampwyr, a gan i'r Seintiau Newydd ennill nos Wener, maen nhw bellach o fewn pwynt i Fangor.
Roedd yr hanner cyntaf i Fangor yn hunllefus, gyda Chastell-nedd yn mynd am yr egwyl dair gôl ar y blaen gan gynnwys dwy gan Luke Bowen.
O fewn dau funud i'r ail ddechrau roedd Bangor yn ôl yn y gêm wrth i Les Davies rwydo foli wych oymyl y cwrt, ac fe ddaeth nifer o gyfleoedd i'r dinasyddion.
Y pen arall fe ddylai Lee Trundle fod wedi sgorio pedwaredd i'r ymwelwyr ond cyfuniad o'r trawst a Chris Roberts a'i rwystrodd.
Trodd pethau'n chwerw cyn y diwedd wrth i Jamie Brewerton a Kerry Morgan fynd am bêl uchel, a'r ddau yn cael anafiadau cas.
Ym marn y dyfarnwr, penelin Brewerton achosodd y niwed i Morgan, ac wedi i gapten Bangor godi yn dilyn cyfnod hir o driniaeth ar y cae, fe welodd y cerdyn coch.
Yn y gemau eraill roedd buddugoliaeth i Lanelli ym Mhrestatyn, ac i'r Seintiau wrth groesawu'r Bala.
Yn hanner isa'r tabl, roedd triphwynt yr un i Airbus a Lido Afan, gyda Phort Talbot a'r Drenewydd yn cipio pwynt yr un.
Canlyniadau'r penwythnos :-
Airbus 3-2 Aberystwyth (dydd Sul)
Bangor 1-3 Castell-nedd (ddydd Sadwrn)
Port Talbot 1-1 Y Drenewydd (ddydd Sadwrn)
Prestatyn 1-2 Llanelli (ddydd Sadwrn)
Lido Afan 5-0 Caerfyrddin (nos Wener)
Seintiau Newydd 3-2 Y Bala (nos Wener)