Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad
- Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru fod dyn 18 oed wedi marw ar ôl digwyddiad ar yr A548 yn Y Rhyl yn oriau mân bore Sadwrn.
Cafodd swyddogion eu galw i'r safle, gyferbyn â Gorsaf Dân Y Rhyl, ychydig wedi 3:30am ar ôl adroddiadau am wrthdrawiad difrifol.
Cafodd y llanc ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gydag anafiadau difrifol i'w ben.
Cadarnhaodd yr heddlu ei fod wedi marw yn yr ysbyty tua 12:00pm ddydd Llun.
Mae'r achos wedi cael ei gyfeirio at y crwner.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu ag adran Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru yn Llanelwy ar 101.