'Cadw rheolaeth o hyd'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cyngor Caerdydd wedi dweud gall y blaid gadw rheolaeth o hyd ar gynghorau wedi etholiadau lleol mis Mai.
Dywedodd Rodney Berman, arweinydd cyngor mwyaf Cymru, fod dicter pleidleiswyr at Lywodraeth y DU wedi "lleddfu tipyn" ers i'r Democratiaid Rhyddfrydol golli sedd yn Etholiadau'r Cynulliad y llynedd.
Roedd yn areithio ar ddiwrnod olaf cynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Dywedodd fod gan ei blaid record dda ar lefel llywodraeth leol a bod dicter at y penderfyniad i glymbleidio gyda'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi lleihau wrth i etholwyr elwa ar doriadau treth incwm a chynnydd yn eu pensiynau.
'Cymryd amser'
"Dyw'r penderfyniad i glymbleidio ddim yn cael ei sôn yn aml ac mae'r dicter wedi lleihau'n sylweddol ers y llynedd," meddai.
"Mae pobl yn gallu gweld ei bod hi'n cymryd amser i ddylanwadu ar bolisi.
"Flwyddyn yn ôl roedd yna tipyn mwy o ddicter ar garreg y drws. Mae hynny wedi lleihau cryn dipyn."
Yn ogystal â Chyngor Caerdydd, mae'r blaid hefyd yn arwain cynghorau Abertawe a Wrecsam.
Ychwanegodd Mr Berman: "Rydyn ni'n gallu mynd at yr etholwyr yn llawn balchder oherwydd yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni."
Nod y blaid fydd gwella ei pherfformiad ers y llynedd pan oedd cwymp mawr yn nghanran ei phleidlais.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2012