Mewnblaniadau: Mwy o glinigau?
- Cyhoeddwyd

Gallai mwy o glinigau gael eu hagor oherwydd yr angen i dynnu mewnblaniadau bronnau PIP diffygiol menywod yng Nghymru.
Hamish Laing, Pennaeth Canolfan Llawdriniaeth Blastig Treforys, ddywedodd hyn er gwaetha'r ffaith bod llai â'r mewnblaniadau diffygiol nag a dybiwyd yn wreiddiol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 1,000 o fenywod wedi cael y mewnblaniadau. Yr amcangyfrif gwreiddiol oedd 2,000.
Bydd rhai gafodd fewnblaniadau mewn clinigau preifat yn cael cynnig eu tynnu nhw, a gosod rhai newydd, yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Lerpwl
Ond bydd rhai menywod yn y gogledd yn cael triniaeth yn Lerpwl.
Erbyn diwedd Chwefror roedd 216 o fenywod Cymru wedi eu hatgyfeirio i'r ganolfan yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Dywedodd Mr Laing y gallai'r apwyntiadau cynta yn yr ysbyty fod yn ddiweddarach y mis hwn.
Gallai rhai y mae eu menblaniadau'n gollwng gael llawdriniaeth o fewn hyd at ddau fis.
Cafodd y mewnblaniadau PIP eu gwahardd ym Mawrth 2010 ond nid oedd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn eu defnyddio.
Twlpyn
Dywedodd Karen Arthur, 30 oed o Bontypridd, ei bod hi wedi cwyno wrth ei llawfeddyg oherwydd "teimlad o losgi" yn ei brest.
Cafodd wybod ei bod hi wedi cael mewnblaniadau PIP ond nad oedd rheswm i boeni.
Yn Chwefror 2011 roedd twlpyn yn ei brest ond cafodd wybod nad oedd "dim byd sinistr".
Ym Medi 2011 roedd twlpyn ar ochr ei chorff.
"Wnes i feddwl - cansyr y fron. Fe es i ga'l sgan ac fe ddywedon nhw fod y mewnblaniad wedi rhwygo.
"Roedd y silicon wedi cyrredd y node lymff ac ro'dd tri twlpyn arall yn fy mraich i."
Straeon perthnasol
- 1 Chwefror 2012
- 10 Ionawr 2012
- 6 Ionawr 2012