Beiciwr modur mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad am 10.30pm nos Sadwrn.
Roedd y ddamwain yn Heol Caerffili, Maesaleg ger Casnewydd. Cafodd yr heol ei chau am gyfnod.
Aed â'r dyn lleol i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.