Ymosodiad: Arestio dyn

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr ardal ei chau wrth i'r heddlu ymchwilio.

Mae dyn wedi ei arestio wedi ymosodiad rhywiol honedig ym Mharc y Rhath yng Nghaerdydd.

Roedd yr ymosodiad honedig nos Sadwrn ar faes chwaraeon.

Cafodd yr ardal ei chau wrth i'r heddlu ymchwilio.

Dylai unrhywun oedd yn y cyffiniau rhwng 8pm a 10pm nos Sadwrn ffonio 101.