Caerdydd 0-2 West Ham

Roedd pwysau West Ham yn drech na Chaerdydd wrth i wŷr Llundain ennill o 2-0.
Wedi cyffyrddiad Nicky Maynard y capten Kevin Nolan sgoriodd yr un gynta, ergyd i mewn i gornel y rhwyd.
Roedd Caerdydd ar y cyfan yn gysgod o'r tîm heriodd Lerpwl hyd yr eitha yn rownd derfynol Cwpan Carling ond tarodd cic rydd Peter Whittingham y postyn.
George McCartney seliodd y fuddugoliaeth.
Mewn pum gêm mae'r Adar Gleision wedi colli pedair, cyfnod gwaetha'r tymor. Ond nhw oedd ar fai ddydd Sul ac roedd safon yr amddiffyn yn isel.
TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau | Gwahaniaeth Goliau | Pwyntiau | |
---|---|---|---|
1. Southampton | 34 | +30 | 65 |
2. West Ham | 33 | +21 | 64 |
3. Reading | 33 | +15 | 60 |
4. Blackpool | 34 | +13 | 56 |
5. Middlesbrough | 33 | +6 | 56 |
8. CAERDYDD | 33 | +9 | 53 |