Hufenfa am ailddatblygu ar gost o £13.5m ym Marchwiel
- Cyhoeddwyd

Mae cyflogwr mawr wedi datgelu bwriad i ailddatblygu ar gost o £13.5m er mwyn diogelu 220 o swyddi.
Dywedodd First Milk Cheese fod angen buddsoddi yn Hufenfa Maelor ym Marchwiel ger Wrecsam.
Y nod yw codi adeilad lle bydd caws yn cael ei dorri a'i becynnu ac mae argymhelliad y dylai cynghorwyr gymeradwyo'r cynllun.
Mudiad cydweithredol yw'r cwmni ac mae 1,800 o ffermwyr yn berchen arno.
Bob blwyddyn mae'n prosesu 1.5 biliwn o litrau o laeth ac mae 44% ohono'n cael ei droi'n gaws mewn canolfannau yng Nghymru, Cumbria a'r Alban.
'Yn gystadleuol'
Mae Hufenfa Maelor yn pecynnu 30,000 o dunelli metrig o gaws y flwyddyn.
Eisoes mae adroddiad gerbron y cyngor wedi dweud bod angen ailddatblygu fel bod y cwmni'n gallu bod yn "gystadleuol iawn yn y farchnad".
"Ni all yr hufenfa gwrdd â'r galw ar hyn o bryd ac os na fydd y sefyllfa'n gwella'n fawr, bydd y busnes ar ei hôl hi," meddai'r adroddiad.
"Yn y pen draw, bydd hyn yn golygu colli busnes - a gallai olygu colli tua 220 o swyddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2011