Gai a Phil yn ennill Cân i Gymru gyda Braf yw Cael Byw
- Cyhoeddwyd

Y cerddorion Gai Toms a Philip Jones enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru 2012, gyda'u cân Braf yw Cael Byw.
Yn ogystal ag ennill y brif wobr o £7,500 a thlws Cân i Gymru, bydd y cyfansoddwyr nawr yn cael cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Roedd Gai Toms yn aelod o'r band Anweledig ac mae hefyd wedi perfformio dan ei enw ei hun a'r enw Mim Twm Llai.
Mae Philip Jones yn aelod o'r grŵp Gwibdaith Hên Frân ac mae'r ddau wedi cydweithio â'i gilydd yn y gorffennol.
Daeth y gân Braf yw Cael Byw i'r brig wedi iddi dderbyn y nifer uchaf o bleidleisiau, oedd yn gyfuniad o bleidlais ffôn y gwylwyr a sgôr gan y panel o feirniaid, sef Heather Jones, Alun 'Sbardun' Huws, Ynyr Roberts a Lisa Jên Brown.
Gai Toms oedd yn perfformio'r gân yn y rownd derfynol a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Sul.
'Teimlad iasol'
"Ar fore'r gystadleuaeth, mi es i am dro i hen abaty Ystrad Fflur, sef, yn ôl y sôn, ble mae Dafydd ap Gwilym wedi ei gladdu," esbonia Gai.
"Ar gyfer lwc dda, mi wnes i gyffwrdd â'r plac llechen sy'n nodi ble mae'r bedd, ac wrth i mi gerdded o'r safle daeth yna wynt mawr o rywle ac ysgwyd y coed.
"Roedd yna deimlad iasol yna.
"Un ai bod Dafydd yn troi yn ei fedd am fy mod i'n trio yn Cân i Gymru, neu ei fod o'n dymuno pob lwc i mi - wn i ddim.
"Wedyn wrth i mi adrodd y stori wrth Phil gefn llwyfan mi ddoth y gwynt yma o rywle ac ysgwyd y drysau ac mi ddechreuodd hi fwrw cenllysg.
"Roedd hynny'n deimlad rhyfedd, fel tasa yna rywbeth ysbrydol yn digwydd!"
Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Gai geisio yn y gystadleuaeth - a'r tro cyntaf iddo ennill y wobr gyntaf.
"Efo Cân i Gymru dwyt ti byth yn gwybod beth fydd y canlyniad achos bod yna drawstoriad mor fawr o bobl yn gwrando," meddai.
Cydweithio
"Mi wnes i drio y tro cynta' gyda chân roc, yna'r ail waith gyda chân mwy rootsy oedd yn eitha' gwahanol i beth sydd wedi ennill yn y gorffennol.
"Mae Braf yw Cael Byw yn gân fwy generic, oedd yn sôn am betha universal.
"Mae'r geiriau 'O Fy Nuw' yn ddywediad sy'n berthnasol i bawb."
Mae hefyd yn credu fod y bartneriaeth gyda Philip Jones, o'r band Gwibdaith Hen Frân, wedi bod yn help.
"Yn bendant mi oedd gweithio gyda Phil eleni yn fuddiol.
"Dwi'n credu bod pobol yn licio partneriaeth a pheth arall wrth gwrs ydi bod yna ddau deulu a dau grŵp o ffrindiau yn codi'r ffôn i bleidleisio!"
Bydd Gai yn defnyddio'r wobr ariannol o £7,500 i ddatblygu ei stiwdio recordio, Stiwdio Sbensh, yn hen festri Capel Bethel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog.
Yn ail yn y gystadleuaeth eleni, ac yn derbyn gwobr o £2,000, yr oedd Rhydian Pugh gyda'r gân Cynnal y Fflam, ac yn drydydd roedd Nia Davies Williams a Sian Owen gyda'r gân Cain, sy'n derbyn gwobr o £1,000.
Derbyniwyd dros 120 o ganeuon ar gyfer y gystadleuaeth eleni, gydag wyth yn cael eu dewis i gystadlu yn y rownd derfynol.
Mae'r wyth cân ar gael i'w lawr lwytho oddi ar safle iTunes.
Elin Fflur a Dafydd Du oedd yn cyflwyno'r noson ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid.
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2012
- 7 Mawrth 2011
- 1 Mawrth 2010
- 2 Mawrth 2009
- 1 Mawrth 2008