Arestio dyn wedi digwyddiad arfog
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio dyn ar ôl honiadau bod rhywun wedi mynd i mewn i siop yn Y Rhyl gydag arf.
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad yn siop Spar ar Stryd Sussex tua 20:00pm nos Sul.
Daeth plismyn o hyd i'r dyn mewn tŷ gerllaw.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad a daeth plismyn o hyd i'r arf dan sylw.