Hwb i addysg bydwreigiaeth yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Lesley Griffiths ACFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Daeth Gweinidog Cymru, Lesley Griffiths, i lansio'r cyfleusterau newydd ddydd Llun

Mae 'na hwb i addysg bydwreigiaeth yng Nghymru, gydag adnoddau dysgu newydd wedi eu lansio a chyflwyno Athro Bydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd - yr unig swydd o'i bath yn y DU.

Cafodd yr adnoddau newydd yn Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth Prifysgol Caerdydd yng Nghaerllion eu hagor yn swyddogol gan Weinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, ddydd Llun.

Gan ddarparu'r amgylchedd dysgu ac addysgu diweddaraf a diogel i nyrsys a bydwragedd y dyfodol, bydd yr adnoddau'n helpu i baratoi gweithwyr gofal iechyd y dyfodol.

Fel y darparwr mwyaf o ran addysg nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru, bydd yr ystafell efelychu clinigol newydd yn rhoi'r cyfle i dros 1,300 o fyfyrwyr bob blwyddyn gael addysg efelychu ymarferol ac addysg yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwahanol.

Cafodd yr Athro Billie Hunter - Athro Bydwreigiaeth cyntaf Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn y DU - hefyd ei chyflwyno yn swyddogol.

Mae'r swydd wedi ei noddi yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ac, fel rhan o'i rôl, bydd yr Athro Hunter yn datblygu ac yn arwain ymchwil bydwreigiaeth glinigol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol