'Arwydd o hyder' yn JCB Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Y Canghellor George Osborne yn ffatri JCB yn WrecsamFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Y Canghellor George Osborne yn ffatri JCB yn Wrecsam

Cyhoeddodd cwmni JCB y byddan nhw'n buddsoddi £2m yn eu safle yn Wrecsam, fydd yn "gwneud y safle yn fwy effeithlon a chynhyrchiol".

Er bod y cwmni wedi diswyddo 240 o bobl ar y safle ddwy flynedd yn ôl oherwydd y sefyllfa economaidd, mae 'na dros 450 o bobl yn gweithio ar ddau safle yn y dref erbyn hyn.

Ddydd Llun cyhoeddodd y Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol, Stuart Hughes, fod y cwmni'n buddsoddi dros £2m mewn uned gynhyrchu awtomatig newydd, fydd yn gallu cynhyrchu uchafswm o 130 echel mewn diwrnod.

Dywedodd Mr Hughes: "Mae hyn yn arwydd amlwg o hyder Grŵp JCB yn y safle yn Wrecsam. Dyma un o'r buddsoddiadau unigol mwya' mewn peirianwaith newydd yn hanes JCB.

"Nid yn unig fydd o'n ein galluogi i gwrdd â'r cynnydd mewn galw, ond hefyd yn helpu i wneud y safle'n fwy cynhyrchiol a sicrhau ein bod yn parhau yn gystadleuol yn y farchnad ryngwladol."

Mae disgwyl i'r uned gynhyrchu newydd fod ar waith erbyn Ionawr 2013.

Dywed y cwmni na fydd 'na unrhyw newid o ran nifer y swyddi ar y safle.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol