Libya: Amau newyddiadurwyr o ysbïo

  • Cyhoeddwyd
Gareth Montgomery-Johnson a Nicholas DaviesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Gareth Montgomery-Johnson (chwith) a Nicholas Davies eu dal ddydd Mawrth

Mae milisia yn Libya, sy'n dal dau newyddiadurwr o Brydain yn gaeth, yn dweud eu bod yn amau'r ddau o ysbïo.

Dywedodd Faraj al-Swehli, pennaeth milisia Misrata, bod y ddau wedi dod i mewn i Libya yn anghyfreithlon a'u bod yn cario "tystiolaeth ddamniol".

Ychwanegodd eu bod yn ymchwilio i weithgareddau Nicholas Davies, 37 oed, a Gareth Montgomery-Johnson, 36 oed o Gaerfyrddin.

Bu'r ddau yn gweithio i orsaf deledu iaith Saesneg yn Iran o'r enw Press TV.

Mae grwpiau hawliau dynol wedi galw am ryddhau'r ddau.

Fideo

Mewn cynhadledd newyddion byr rybudd, fe gafodd lluniau fideo eu dangos sy'n honni eu bod yn dangos y ddau yn tanio arfau fel prawf.

Fe gafodd offer y mae'r milisia yn honni oedd gan y ddau hefyd ei ddangos - yr un math o offer ag sy'n cael ei ddefnyddio gan luoedd Israel.

Dywedodd Mr Swehli ei fod yn credu mai ysbiwyr oedd y ddau, a'i fod yn cynnal ymchwiliad ei hun i'r mater.

"Wedi i ni orffen yr ymchwiliad yma byddwn yn ei drosglwyddo i awdurdodau'r wladwriaeth er mwyn parhau gyda'r broses gyfreithiol yn eu herbyn," meddai.

Mynnodd fod y ddau yn cael eu trin yn dda.

Dogfennau

Cafodd Mr Davies - sy'n gweithio dan yr enw Nick Jones - a Mr Montgomery-Johnson eu cipio ar Chwefror 21, wrth ffilmio yn hwyr yn y nos ar strydoedd (y brifddinas) Tripoli mae'n debyg.

Yn wreiddiol, y cyhuddiad yn eu herbyn oedd nad oedd eu dogfennau mewnfudo mewn trefn.

Dywedodd swyddfa Prif Weinidog Libya wrth y BBC nad oedden nhw'n ymwybodol o honiadau o ysbïo.

Hyd yma mae pob ymdrech gan y llywodraeth dros dro a llysgenhadaeth Prydain yn Libya i berswadio'r milisia i ryddhau'r dynion wedi bod yn ofer.