Rhybudd heddlu wedi tri marwolaeth
- Published
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl i dri dyn ifanc farw ar Ynys Môn dros y pythefnos diwethaf.
Er eu bod yn dweud nad oes amgylchiadau amheus ynghylch y marwolaethau, maen nhw'n gofyn i bobl fod yn ofalus.
Roedd y tri a fu farw yn ddefnyddwyr cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Andrew Williams: "Rydym yn cydymdeimlo gyda theuluoedd y tri dyn ifanc fu farw yn ardal Llangefni.
"Ar hyn o bryd rydym yn aros am ganlyniadau profion tocsicoleg, ac felly ni fyddai'n briodol i ni son am achosion y marwolaethau.
"Ond mae'n deg i ddweud bod cynifer o farwolaethau dros gyfnod mor fyr ac yn yr un ardal yn ddigwyddiad prin iawn
"Rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i geisio sefydlu yn union beth ddigwyddodd.
"Wrth bwysleisio nad oes gennym wybodaeth ddibynadwy i awgrymu bod cyflenwad amheus o gyffuriau anghyfreithlon ar werth yn yr ardal, byddwn yn gofyn i bobl gymryd camau priodol i fod yn ofalus."