Beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Heddlu Gwent fod beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad dros y penwythnos.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Heol Caerffili, Basaleg, ddydd Sadwrn.
Roedd Nicholas Chetnik yn 53 oed ac yn byw yn lleol.
Doedd yna'r un cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.