Faint o ddyfodol sydd i'r Stryd Fawr?
- Cyhoeddwyd

Mae bron i £300 miliwn wedi cael ei wario ar adfywio canol trefi Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Dyna'r ystadegau am arian a gyfrannwyd gan Lywodraeth Cymru a grantiau o Ewrop, a fydd yn cael eu datgelu yn rhaglen gyntaf cyfres newydd o Taro Naw.
Ond mae yna alw am gyfyngu ar faint canol trefi ar hyd a lled Cymru er mwyn ceisio diogelu eu dyfodol.
Pryder nifer o siopwyr yw bod gormod o ganolfannau siopa traddodiadol bellach yn rhy fawr ac o ganlyniad mewn peryg o ddiflannu yn llwyr.
Ac mae 'na siopau gwag a llai o bobl yn dod i ganol trefi.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 13% o siopau trefi Cymru a Lloegr yn wag.
Atyniadau hanesyddol
Mewn rhai o drefi Cymru mae'r ffigwr yn nes at 20%, fel yng Nghasnewydd, Pontypridd neu Gaernarfon.
Yng Nghaernarfon mae 'na ymdrechion i adfywio'r ardal ac mae atyniadau fel y castell yn denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr.
"Yma yn edrych ar safle treftadaeth y byd, yr un safon â'r Taj Mahal, rydym yn denu twristiaeth," meddai Ioan Thomas, Maer Caernarfon.
"Ond fe ddylen ni fod yn gwneud llawer gwell efo hynny.
"Mae potensial yma i bobl leol ac ymwelwyr."
Yn Yr Wyddgrug mae'r siopwyr yn dweud bod cynlluniau ar waith yno yn sicrhau bod canol y dre' yn brysur a'r siopau yn llwyddo.
Mae ganddyn nhw reolwyr ar gyfer canol y dre', a chynllun marchnata enfawr yn gwerthu'r dre fel tre' farchnad.
Mae pobol fusnes yno yn hyderus.
"Mae pawb yn trio yn galed iawn," meddai Rhian Spaven o Siop Losin Spavens.
Cynnig profiad
"Mae'r bobl sy'n byw yma yn cefnogi'r dref, yn mynd at y cigydd, yn mynd i'r siop lysiau ac yn cefnogi'r siopau bach.
"Dwi'n credu eu bod yn hoffi dod i mewn i'r dre' i siopa."
Yng Nghaerfyrddin mae siop Marian Ritson, Pethau Bychain, yn un o lwyddiannau'r stryd fawr.
Beth, yn ei barn hi, yw cyfrinach busnes sy'n ffynnu er gwaetha'r hinsawdd economaidd?
"Os nad ydach chi'n denu cwsmeriaid does 'na ddim byd yn cael ei werthu," meddai.
"Fydd 'na ddim arian yn newid dwylo.
"Mae'n rhaid i'r stryd fawr newid does 'na ddim dwywaith bod rhaid i'r siopwyr newid o ran gwerthu ac ymateb i gwsmeriaid a chynnig rhywbeth i ddenu pobl o'u cartrefi a chynnig profiad gwahanol i siopa ar y we."
Taro Naw gan BBC Cymru ar S4C nos Fawrth Mawrth 6, 2012 am 9pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2011