Dathlu'r Jiwbilî yng Nghymru gyda phartïon stryd

  • Cyhoeddwyd
Y FrenhinesFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd y Frenhines yn ymweld â Chymru fel rhan o'r dathliadau

Mae'r cynlluniau ar gyfer dathlu Jiwbilî Diemwnt Y Frenhines yng Nghymru yn ehangu gyda phartïon stryd, gorymdeithiau a chyngherddau yn cael eu trefnu ar gyfer mis Mehefin.

Eisoes mae'r mwyafrif o gynghorau wedi dechrau derbyn ceisiadau i gau strydoedd, gan adlewyrchu'r hyn a ddigwyddodd mewn nifer o lefydd ar gyfer y Briodas Frenhinol y llynedd.

Mae tua 40 o geisiadau wedi eu gwneud hyd yma ond mae'r cynghorau yn disgwyl llawer mwy.

Er bod y dathliadau swyddogol yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol mae disgwyl i nifer o ysgolion nodi 60 mlynedd ers i'r Frenhines fod wrth y llyw.

Mae 'na amcangyfri' bod tua 200 o bartïon stryd yng Nghymru yn ystod y Briodas Frenhinol y llynedd, a tua eu hanner yn siroedd Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

'Parti mwy'

Dywedodd Anthony Parry, a drefnodd barti stryd enfawr yng nghanol Yr Wyddgrug y llynedd, ei fod yn bwriadu trefnu parti arall eleni gyda'r 1950au yn thema.

"Roedd y parti gorau yng Nghymru yma yn Yr Wyddgrug, fe fyddwn ni'n cynnal un llawer mwy a gwell eleni," meddai.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd tua 200 o bartïon stryd yng Nghymru ar gyfer y Briodas Frenhinol

"Roedd tua 5,000 o bobl yma ac eleni rydym yn gobeithio cael sgrin fawr yn ogystal â thân gwyllt.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda bob un o'r 22 awdurdod yng Nghymru.

Gyda deuddydd o wyliau, fe fydd 'na bedwar diwrnod o ddathliadau yn cychwyn y penwythnos Mehefin 2.

Castell-nedd Port Talbot sydd wedi derbyn y nifer mwya' o geisiadau hyd yma, chwech, tra bod 'na bum cais wedi ei wneud i gynghorau Caerdydd a Phenfro.

Dywedodd Kristyn Harris, a drefnodd barti ym Mhontllanfraith, Caerffili, ar gyfer Y Briodas Frenhinol y llynedd, bod y digwyddiad wedi dod â'r gymuned yn llawer agosach.

'Gwaith papur'

"Cyn y Briodas doedd pawb ddim yn 'nabod ei gilydd, ond maen nhw wedi gwneud ffrindiau ac yn cadw mewn cysylltiad," meddai.

"Rydym yn fwy ymwybodol o bwy sy'n byw yn lle, yn enwedig yr henoed a'r bregus."

Ond dywedodd nad oedd hi yn bwriadu trefnu parti arall eleni oherwydd yr amser oedd o'n ei olygu.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o waith papur a chyfarfodydd gyda'r heddlu a'r cyngor," meddai.

Un o'r prif ddigwyddiadau fydd goleuo coelcerthi ar Fehefin 4, ac mae 100 o geisiadau eisoes wedi eu gwneud.

Fe fydd y Frenhines yn ymweld â Chymru fel rhan o'i thaith o gwmpas y DU gan ymweld â Chaerdydd, Merthyr Tudful, Aberfan, Glyn Ebwy, Crughywel a Margam.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol