Dau o Gymru yn sicrhau lle yn y Gemau Olympaidd 2012
- Cyhoeddwyd

Mae dau o nofwyr Cymru wedi llwyddo i sicrhau eu lle yn Nhîm Nofio Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Yn y Ganolfan Ddŵr yn y Parc Olympaidd ddydd Llun fe wnaeth Georgia Davies ac Ieuan Lloyd sicrhau eu llefydd ar gyfer yr haf.
Doedd amser Ieuan Lloyd o Benarth yn y ras 200m dull rhydd ddim yn ddigon cyflym i ennill lle yn y ras unigol.
Ond roedd ei amser yn ddigon i sicrhau ei le yn y tîm ras cyfnewid.
Bydd Georgia Davies, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwyr, yn cystadlu yn y ras 100m dull cefn ar ôl ennill medal arian ddydd Llun.
"Dwi'n methu stopio gwenu," meddai wedi'r ras.
"Dwi wedi bod yn breuddwydio am y teimlad yma ers yn ifanc iawn.
"Roeddwn i'n gwybod y gallwn i wneud e gan fy mod wedi bod yn ymarfer yn well nag erioed ond roedd rhan ohona i meddwl mai breuddwyd fydde hyn.
"Ond mae'r freuddwyd wedi dod yn wir a sai'n gallu dweud cymaint mae'n olygu i mi."
Fe fydd Jazz Carlin, Jemma Lowe a David Davies yn cystadlu am eu llefydd nhw yn y tîm yn ystod yr wythnos.
Mae'r treialon yn gyfle i'r nofwyr Paralympaidd hawlio eu lle yn y Gemau.
Mae'r Cymro David Roberts wedi gorfod tynnu'n ôl oherwydd salwch ond mae Eleanor Simmonds, sy'n hyfforddi yn Abertawe, wedi sicrhau ei lle hi yn y Gemau Paralympaidd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2012