Brech goch: Rhybudd i gystadleuwyr yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Wrth i eisteddfodau cylch a sir yr Urdd gael eu cynnal, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhybuddio ei bod hi'n bwysicach fyth fod rhieni yn y gogledd sicrhau fod eu plant yn cael eu brechu â'r MMR.
Mae 33 achos o'r frech goch wedi eu cadarnhau yn ardal Porthmadog o fewn yr wythnosau diwetha'.
Mae 29 o'r achosion yn gysylltiedig ag Ysgol Eifionydd yn y dref a'r pedwar arall yn yr un ardal er nad oes cysylltiad uniongyrchol â'r ysgol.
Pryder arbenigwyr meddygol yw y gallai ledaenu ymhellach drwy'r eisteddfodau wrth i gannoedd o blant ddod at ei gilydd mewn un lle i gystadlu.
Fe fydd yr Eisteddfod ei hun yn cael ei chynnal eleni yng Nglynllifon ym mis Mehefin.
Mae'r Urdd yn dweud y byddan nhw'n gwrando ar gyngor swyddogion iechyd.
Pan ddaeth yr achosion cynta' i'r amlwg ganol mis Chwefror, daeth yn amlwg nad oedd y mwyafrif o'r plant ddim wedi cael eu brechu gyda'r MMR o gwbl, neu ond wedi cael un dos.
Dau ddos
Mae meddygon yn yr ardal yn cynnig brechiadau i blant sydd ddim wedi cael y ddau ddos, yr unig ffordd o'ch gwarchod rhag y frech goch.
Yn arferol, fe fydd plant yn cael y dos cynta' pan tua blwydd oed a'r ail pan fyddan nhw ar fin dechrau'r ysgol rhwng tair a thair a hanner oed.
Yn ôl Dr Roland Salmon, epidemolegydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r ail ddos yr un mor bwysig.
"Rydym yn cynghori rhieni plant i gael dau ddos o'r brechiad MMR.
"Mae'n bwysig cael dau oherwydd fe fyddai hynny yn ddigon i stopio lledu'r firws.
"Mae'n rhaid cael 95% o bobl sydd wedi cael y brechiadau i wneud yn siŵr bod y firws yn cael ei atal."
Ychwanegodd bod rhaid bod yn ofalus mewn unrhyw ddigwyddiad lle mae nifer sylweddol o blant yn ymgasglu gyda'i gilydd.
Cyngor
Gyda'r eisteddfodau cylch a sir yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, y cyngor yw i rieni yng Ngwynedd a'r gogledd yn gyffredinol sicrhau fod plant yn cael eu brechu.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd bod tua 35,000 o blant yn cymryd rhan yn yr holl gystadlaethau ond nad oedd modd manylu ar nifer y rhai sy'n cystadlu yn ardal Porthmadog.
"Rydym yn derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru," meddai.
Meddyg teulu ym Mhontypridd yw Zoe Morris Williams, sy'n egluro sut mae'r frech goch yn lledaenu.
"Gan mai haint yw'r tri sydd o fewn y brechiad, y frech goch, clwy'r pennau a rwbela, gall ledu yn hawdd iawn am eu bod yn firws.
"Mae firws fel arfer yn teithio yn yr aer ac yn lledu drwy anadlu, tisian neu beswch.
"Fyddwn i ddim yn dweud na ddylech chi gadw eich plant oddi wrth blant eraill gan fod firws o'n cwmpas o hyd.
"Rhaid cofio bod oedolion sydd ddim wedi cael eu pigiadau i gyd yn gallu dal y firws hefyd, felly mae angen iddyn nhw a myfyrwyr sy'n mynd i golegau o bosib fod yn ofalus ac os nad ydach chi'n sicr eich bod wedi cael dau bigiad, fe ddylech chi gysylltu gyda'r meddyg teulu."
Os oes 'na rieni eisiau gwybodaeth bellach neu fod y plant yn teimlo yn sâl a gyda symptomau'r frech goch, fe ddylen nhw gysylltu gyda'u meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.
Straeon perthnasol
- 5 Mawrth 2012
- 29 Chwefror 2012
- 27 Mehefin 2011
- 1 Medi 2010
- 17 Rhagfyr 2009