Hanes terfysg yn Yr Amgueddfa Wlân

Dynion yn gorymdeithio Image copyright Other
Image caption Bydd yr arddangosfa yn yr Amgueddfa Wlân tan ddiwedd Mehefin

Streicio a therfysg yng Nghymru yw thema arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Wlân Cymru yn Nyffryn Teifi.

Bydd yn canolbwyntio ar bum digwyddiad yn hanes gwaith a chyflogaeth Cymru, gan gynnwys terfysg Merthyr a'r trafferthion ym Mharc Caia, Wrecsam. .

Bydd yn para tan ddiwedd Mehefin, gan nodi pen-blwydd llosgi'r tollborth ger safle'r amgueddfa yn Nhrefach, Felindre, fel rhan o ymgyrch Merched Beca ar 14 Mehefin, 1843.

Yn ôl yr amgueddfa, mae hon yn arddangosfa fydd yn codi ambell gwestiwn anghyfforddus, fel beth sy'n peri i weithwyr wrthod gweithio, a yw'r perchnogion wastad yn anghywir ac yw'r dorf wastad yn drafferthus?

Dywedodd Ann Whittall, Rheolwraig Amgueddfa Wlân Cymru: "Mae'r arddangosfa bwysig hon yn procio'r meddwl ac yn ein hatgoffa am ein treftadaeth ddiwydiannol o safbwynt cymdeithasol.

"Mae'n ychwanegiad arall at gornel hanes cymdeithasol parhaol yr Amgueddfa."

'Problemau cymdeithasol'

Y digwyddiad diweddaraf i gael ei adlewyrchu yw'r trafferthion ym Mharc Caia, Wrecsam yn 2003.

Adeiladwyd yr ystâd dai, a oedd yn cael ei adnabod fel Queen's Park, yn yr 1950au ond ymhen amser roedd diweithdra yn rhemp yno wedi i waith dur Brymbo gau. Arweiniodd hyn at broblemau cymdeithasol eraill, gan gynnwys problemau hiliol a daeth hyn i benllanw ym mis Mehefin 2003, pan fu gwrthdaro rhwng dyn Cwrdaidd a Chymro.

Bydd yr arddangosfa hefyd yn dychwelyd i'r 19eg a'r 20fed ganrif gynnar, pan roedd y diwydiannau trwm ar eu hanterth yng Nghymru.

Image copyright Other
Image caption Gall yr arddangosfa symud ymlaen i ardaloedd eraill yng Nghymru

Merthyr oedd y dref fwyaf yng Nghymru yn 1831 oherwydd y gweithfeydd haearn. Serch hyn, daeth cwymp yn y diwydiant a dioddefodd y dref dlodi mawr. Roedd y bobl yn flin gyda'r gweithfeydd, benthycwyr arian, y beilïaid a pherchnogion siopau ac erbyn haf 1831 daeth streicio a therfysg i'r strydoedd.

Yn ystod y 1830au, cafodd ardaloedd gwledig gorllewin Cymru eu taro gan gynaeafau gwael, cwymp ym mhrisiau cynnyrch a'r angen i dalu'r degwm i'r eglwys a thaliadau i'r awdurdodau lleol, gan gynnwys tollau i ddefnyddio'r ffyrdd.

Ymateb y ffermwyr oedd gwisgo fel 'merched Beca' min nos a llosgi'r tollbyrth.

Marwolaeth

"Ond tua'r diwedd, daeth gangiau treisgar yn rhan o bethau, a lladdwyd un ddynes," meddai Mark Lucas, swyddog rheoli casgliadau'r Amgueddfa Wlân.

"Nid oedd y ffermwyr eisiau bod yn rhan o hynny.

"Un a helpodd i amddiffyn y ffermwyr oedd y tirfeddiannwr a chyfreithiwr lleol, Edward Hall. Gyda'i gymorth o, chafodd neb eu dedfrydu a dechreuodd y llywodraeth edrych ar y sefyllfa a rheoli'r tollbyrth."

Yn 1910 agorodd ffas lo newydd yng ngwaith glo Ely ym Mhenygraig yng nghwm y Rhondda Fawr. Ni allai'r perchennog a'r gweithwyr gytuno ar ba bris i'w dalu am y glo felly cafodd y pwll ei gau i'r 950 o weithwyr. Fe sbardunodd 12,000 o weithwyr yn holl byllau'r cwmni Cambrian Combine fynd ar streic ac roedd hefyd terfysg a marwolaethau ar y strydoedd.

Y flwyddyn wedyn, daeth terfysgoedd rheilffyrdd Llanelli pan gafwyd streic ledled Prydain dros gydnabyddiaeth i undebau gweithwyr y rheilffyrdd.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn yr Amgueddfa Wlân tan Fehefin 29.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.