Arddangosfa am gyfraniad 'arbennig'
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfraniad lesbiaid, pobl hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol i ddiwylliant Cymru yn cael ei ddathlu mewn arddangosfa yng Nghaerdydd.
Mae'n cynnwys barddoniaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg, hanes Merched Llangollen ag ymweliad fan fawr binc i'r cymoedd yn ystod Streic y Glowyr.
Yn adeilad y Pierhead fe fydd yr arddangosafa tan Fawrth 27.
Yn ystod y lansiad ddydd Llun mae perfformiad drama am gyfeillgarwch beirdd y Rhyfel Byd Cyntaf, Siegfried Sassoon a Wilfred Owen oedd o dras Gymreig.
"Mae'r arddangosfa yn llawn pobl ddiddorol," meddai Norena Shopland, rheolwr treftadaeth Canolfan Ragoriaeth Lesbiaid, Pobl Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yng Nghaerdydd.
'Blaenllaw'
"Un amlwg yw Katherine Philips ddaeth i fyw yn Aberteifi pan roedd yn 11 yn yr ail ganrif ar bymtheg.
"Hi oedd un o feirdd benywaidd mwyaf blaenllaw Prydain a sefydlodd fan cyfarfod i ferched drafod barddoniaeth a chariad.
"Mae yna ddadlau a oedd hi'n lesbiad neu beidio ond, yn sicr, fe wnaeth hi ysgrifennu gwaith erotig ar gyfer merched."
Yn yr arddangosaf mae 'na gyfeiriad at Ferched Llangollen, dwy ferch teulu bonedd o Iwerddon ddihangodd i Gymru.
Roedd teuluoedd Y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby yn ceisio eu gorfodi i briodi â dynion.
Arferai'r ddwy ysgrifennu i enwogion o'u cartref ym Mhlasnewydd a derbyn gwesteion fel y Frenhines Charlotte berswadiodd ei gŵr i roi pensiwn gydol oes i'r ddwy.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys barddoniaeth o'r unfed ganrif arv bymtheg.
Y fan binc
"Mae yna bennill cynnar iawn gan Huw Arwystle yn 1550, y Mab wedi ei wisgo mewn Dillad Merch'.
"Mae rhai'n dweud mai sôn am wisgo ar gyfer sioe yr oedd e ond mae eraill yn dadlau mai trawswisgwr oedd e," meddai Norena.
Bydd yr arddangosfa yn cyfeirio at y fan binc yn dod i'r cymoedd yn ystod Streic y Glowyr, yn llawn bwyd, teganau ac arian wedi eu casglu gan gymuned lesbiaid a hoywon Llundain.
"Daeth rhai o'r glowyr i'r orymdaith Pride yn Llundain wedyn oherwydd y gefnogaeth hon," meddai Norena.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2010