Ailagor Neuadd Gwyn wedi i dân ei ddinistrio
- Cyhoeddwyd

Ar ôl i dân ddinistrio canolfan gelfyddydau yng Nghastell-nedd bedair blynedd a hanner yn ôl fe fydd Neuadd Gwyn yn ailagor.
Roedd y neuadd ar fin cael ei gwblhau ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £5 miliwn ym mis Hydref 2007 pan gafodd ei ddinistrio gan y tân.
Nawr fe fydd cyngerdd arbennig yno nos Iau i nodi agoriad hir-ddisgwyliedig y neuadd.
Mae bron i £10 miliwn wedi cael ei wario ar ail-godi'r neuadd.
Ymhlith y cyfleusterau newydd yno y mae ystafell ddawnsio a llwyfan ar gyfer perfformiadau operatig a dramâu.
Ac fe fydd y sinema yn dychwelyd i Gastell-nedd am y tro cyntaf ers rhyw 20 mlynedd - sinema 3D gyda 75 sedd.
Sarra Elgan, un o ferched y fro, fydd yn arwain y cyngerdd.
Adroddiad Owain Evans
Ers dros 100 mlynedd bu'r adeilad yn ganolbwynt i ddigwyddiadau diwylliannol y dref ar ôl i'r neuadd gael ei adeiladu yn yr 1880au.
Cyfle i'r gymuned
Mae'r ganolfan yn ganolbwynt i ymdrechion y cyngor sir i adfywio'r dref.
"Mae'r cyngor yn ail-fuddsoddi mewn canolfannau trefol yn enwedig canol tref Castell-nedd ac mae cwblhau'r gwaith yma yn rhan o'r cynlluniau," meddai Owen Jenkins o Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
"Theatr draddodiadol sydd yma ond hefyd mae 'na draddodiad wedi bod i roi cyfle a llwyfan i grwpiau, unigolion a chymdeithasau lleol i gael cyfle i ddangos eu doniau."
Dywedodd Ali Thomas, arweinydd Cyngor Castell-nedd a Phort Talbot, bod y cyngor wedi rhoi addewid i ail-adeiladu'r adeilad.
"Mae e wedi bod yn waith hir a chaled.
"Rydym wedi dangos parch at hanes a thraddodiad yr adeilad, ond rydym hefyd wedi gallu cynnig canolfan gelfyddydau a diwylliannol fodern a fydd yn ysbrydoliaeth i genhedloedd i ddod."
Yn y ganolfan hefyd y bydd ystafell amlbwrpas ar gyfer dosbarthiadau a chaffi.
"Rydym yn gobeithio bydd yr adnodd yma yn denu perfformwyr o bob cwr o'r byd," meddai Mike James, Cadeirydd Yr Ymddiriedolaeth Hamdden Geltaidd.
"Rydym eisiau ysbrydoli plant yr ardal trwy ddawns a'r celfyddydau, a hybu artistiaid y dyfodol.
"Dwi eisiau gweld yr adeilad ar agor saith diwrnod yr wythnos ac yn cael ei ddefnyddio gan bawb."
Fe fydd cyfle i'r cyhoedd gael gweld yr adeilad ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2012
- 19 Chwefror 2012
- 8 Mawrth 2012
- 28 Hydref 2007
- 20 Hydref 2007
- 19 Hydref 2007
- 15 Hydref 2008