Morgannwg yn arwyddo Moises Henriques o Awstralia
- Cyhoeddwyd

Mae tîm criced Morgannwg wedi arwyddo'r chwaraewr amryddawn o Awstralia, Moises Henriques, am ran gyntaf y tymor.
Fe fydd Henriques yn dirprwyo i Marcus North, sydd hefyd o Awstralia.
Mae disgwyl i Henriques wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Prifysgol Rhydychen ar Fawrth 31.
Fe fydd North, sydd wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Morgannwg, yn colli'r pum wythnos gyntaf am fod ei wraig yn disgwyl eu hail blentyn.
"Dwi'n falch iawn o gael ymuno â Morgannwg," meddai Henriques, 25 oed.
'Uchelgais'
Mae o wedi chwarae dwy gêm undydd a gêm 20 pelawd i Awstralia.
Mae o hefyd wedi chwarae gyda'r Delhi Daredevils, Kolkata Knight Riders, Mumbai Indians, New South Wales a'r Sydney Sixers.
Cyd-weithiodd gyda hyfforddwr Morgannwg, Matthew Mott, yn New South Wales.
"Mae Morgannwg yn sir uchelgeisiol a dwi'n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda Mott unwaith eto.
"Fe fydd yr wythnosau cyntaf yn allweddol iawn i'r sir a dwi'n gobeithio gallu gwneud cyfraniad positif i'r tîm."
Mae Mott yn credu bod gan Henriques y gallu i wneud argraff ar Forgannwg ar ddechrau prysur i'r tymor.
"Mae'r gemau eleni yn golygu y byddwn yn chwarae bron i draean o gemau'r bencampwriaeth o fewn pum wythnos gyntaf y tymor," meddai Mott.
"Fe fydd cael chwaraewr amryddawn yn cynnig sawl opsiwn i ni."
Mae Morgannwg yn gobeithio arwyddo'r bowliwr cyflym o Awstralia, Mitchell Johnson, ar gyfer ymgyrch 20 pelawd y tîm.