Gethin Jenkins i arwain Cymru oherwydd anaf i Sam Warburton

  • Cyhoeddwyd
Gethin JenkinsFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Gethin Jenkins yn arwain Cymru am y trydydd tro

Gethin Jenkins fydd yn arwain tîm Cymru wrth iddyn nhw herio'r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, wrth i gapten y garfan, Sam Warburton, barhau i ddioddef gydag anaf i'w ben-glin.

Yn un o ddau newid ymysg y blaenwyr i'r tîm ddechreuodd yn erbyn Lloegr, gan ennill y Goron Driphlyg yn Twickenham fis diwetha', bydd Justin Tipuric (Gweilch) yn cymryd lle Warburton, gan ennill ei bedwerydd cap a dechrau am y tro cynta' i Gymru.

Mae 'na hwb fod y canolwr Jamie Roberts yn holliach, felly does dim newid ymhlith yr olwyr a drechodd Lloegr.

Mae Scott Williams ar y fainc.

Ond mae 'na ergyd i fachwr y Scarlets, Ken Owens, sy'n gorfod bodloni â'i le ymhlith yr eilyddion, wrth i Matthew Rees ddechrau ei gêm gyntaf ers cyn Cwpan y Byd.

Mae'r clo Luke Charteris yn ôl yn y tîm, gyda lle iddo ar y fainc ar gyfer ymweliad yr Azzurri.

Mae yntau'n ôl am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd ar ôl anaf i'w arddwrn.

Fe chwaraeodd ei gêm lawn gyntaf i'r Dreigiau, pan gollon nhw yn y Pro 12 yn erbyn Munster ar Rodney Parade nos Wener.

Mae'r chwaraewr amryddawn James Hook hefyd ar y fainc, ar ôl gwella o frech yr ieir, ac yn cymryd lle Stephen Jones.

Bydd prop Y Gleision, Jenkins, yn ennill ei 86fed cap ac yn arwain Cymru am y trydydd tro wedi iddyn nhw ennill eu tair gêm gynta' yn y Bencampwriaeth, a dim ond pythefnos o gemau ar ôl.

'Bwriad didostur'

"Oherwydd anafiadau i bob un o'r tri chwaraewr ar ryw adeg neu'i gilydd, dydyn ni ddim wedi gallu dewis tri Llew 2009 yr un pryd yn rhy aml ac, er ein bod yn hapus iawn gyda'r gwaith mae Ken wedi'i wneud, rydyn ni'n rhoi cyfle i Matthew gyfrannu wrth i'r gystadleuaeth gyrraedd ei therfyn," meddai prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

"Rydyn ni'n ôl yn Stadiwm y Mileniwm, o flaen ein cefnogwyr cartre', ac rydyn ni angen canolbwyntio'n llwyr ar ôl ein buddugoliaeth Coron Driphlyg yn Twickenham, os ydyn ni eisiau'r siawns orau o gystadlu am y Bencampwriaeth wrth wynebu'r gêm ola' yna yn erbyn Ffrainc.

"Bydd Yr Eidal yn gobeithio'n gweld ni'n ymlacio ac yn meddwl am gêm Ffrainc, ond fydd y tîm yma na'r genedl ddim yn derbyn unrhyw beth llai na buddugoliaeth ddydd Sadwrn ac mae hynny'n gadael y chwaraewyr eu hunain gyda theimlad o fwriad didostur."

Mae disgwyl i dros 60,000 o docynnau gael eu gwerthu, gyda channoedd yn prynu pob dydd. Mae'r Stadiwm yn dal 74,500 o bobl.

Cymru: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Michael Phillips; Gethin Jenkins (C), Matthew Rees, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Toby Faletau

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams

Cymru v Yr Eidal, Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd:Dydd Sadwrn,Mawrth 10,2.30pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol