BBC Cymru Fyw

Shane Williams yn barod am un gêm arall i'r Gweilch cyn ymddeol

Published
image copyrightGetty Images
image captionMae disgwyl i Shane Williams chwarae unwaith eto dros Y Gweilch
Mae Shane Williams wedi datgelu ei fod o bosib am chwarae un gêm arall i'r Gweilch cyn ymddeol.
Dydi'r asgellwr 35 oed ddim wedi ymddangos dros y rhanbarth ers colli yn erbyn Biarritz fis Ionawr.
Mae o eisoes wedi dweud y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, ac mae o wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol yn barod.
Dywedodd ei fod wedi cael trafodaeth gyda phrif hyfforddwr Y Gweilch, Steve Tandy.
"Dwi ddim am gymryd lle Hanno Dirksen, Eli Walker nag unrhyw un arall," meddai.
"Mae'n bwysig eu bod nhw yn y tîm, yn cael cyfle a dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Cyfle i'r rhai iau

"Mae Steve a fi yn gwybod fy mod yn dod at ddiwedd fy ngyrfa chwarae.
"Dyw hi ddim drosodd a dwi'n barod i chwarae ac fe fyddwn i'n chwarae fory nesa petai'r alwad yn dod.
"Dwi'n meddwl y bydda' i'n wynebu'r Dreigiau gartre ymhen rhai wythnosau.
"Ond mae'n bwysig fy mod yn rhoi cyfle i'r rhai iau a gwneud yn siŵr eu bod nhw yn barod ar gyfer rygbi ar y lefel ucha."
Fe fydd Y Gweilch yn wynebu'r Dreigiau yn y Pro12 yn Stadiwm Liberty ddiwedd mis Ebrill.
Fe wnaeth Williams wrthod cais i ymestyn ei gytundeb tan tymor 2012-13 ond mae wedi derbyn rôl fel "llysgennad" gyda'r rhanbarth ar ôl ei ymddeoliad.
Mae o wedi mynegi diddordeb mewn bod yn hyfforddwr ac mae o wedi bod yn sylwebydd i'r BBC yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe wnaeth chwarae dros Gymru am y tro olaf ym mis Rhagfyr 2011, gan sgorio cais yn erbyn Awstralia a enillodd y gêm o 24-18.

Straeon perthnasol

  • Shane: Gêm olaf yn erbyn Cymru