Golygydd newydd yn gosod ei stamp ar Barddas
- Cyhoeddwyd

Mae rhifyn cyntaf Twm Morys fel golygydd newydd Barddas yn gweld golau dydd.
Ar glawr y rhifyn diweddaraf mae 'na arwyddair newydd sy'n crynhoi amcanion y golygydd newydd yn daclus iawn, "Yr hen ddweud o'r newydd yw".
O bosib mae'r llun ar y clawr yn annisgwyl, llun o'r canwr pop Geraint Jarman.
Ond fel y mae Twm Morys yn ei ddweud, "fel bardd y cychwynnodd Geraint cyn troi at ganu pop".
Mae cyfweliad gyda'r canwr ar drothwy cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi ers 1976 ynghyd â chwe cherdd newydd o'i eiddo yn un o nifer o arwyddion fod y golygydd newydd yn awyddus i osod ei stamp ei hun ar y cylchgrawn.
Ymhlith cynnwys arall y cylchgrawn, a gyhoeddir yr wythnos yma, y mae ysgrif gan Dafydd Iwan, y cyntaf mewn cyfres newydd o ysgrifau a fydd yn edrych ar hanes Cymru trwy lygaid y beirdd.
Mae 'na golofnwyr newydd o blith enwau cyfarwydd iawn y byd barddoniaeth yng Nghymru gan gynnwys Dewi Prysor, Emyr Lewis, Gwyn Thomas a bardd plant Cymru, Eurig Salisbury.
Diwyg newydd
Ond wrth dorri llwybrau newydd, mae Barddas ar ei newydd wedd yn parhau i arddel cyswllt cryf â'i orffennol cyfoethog.
Un o'r ddau olygydd gwreiddiol, Y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, sy'n gyfrifol am yr arwyddair newydd "Y traddodiad hardd ydyw, Yr hen ddweud o'r newydd yw".
"Mae'n crisialu'r hyn dwi'n credu y dylai'r cylchgrawn ei wneud," meddai Twm Morys.
"Mae'n arwyddair i'r cylchgrawn ac i'r gymdeithas gerdd dafod, egwyddor sy'n wir pan sefydlwyd y gymdeithas a hyd heddiw,
"O ran y cylchgrawn mae'r diwyg yn wahanol iawn, mae maint y cylchgrawn yn llai ond yn fwy trwchus a phwyslais ar luniau i gyd fynd a'r testun sy'n rhywbeth newydd o bosib.
"Yn naturiol roedd y cylchgrawn yn mynd ers 1976 ac o gael brenin newydd mae 'na dueddiad i wneud ychydig o newidiadau.
"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cylchgrawn ar ei newydd wedd yn plesio llawer mwy o bobl nag y bydd yn eu pechu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd8 Awst 2003
- Cyhoeddwyd26 Mai 2009