Cyn-berchennog fferm bysgod yn cael dirwy o £50,000
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-berchennog fferm bysgod ar Ynys Môn wedi cael dirwy o £50,000 ar ôl llygru rhan o arfordir Ynys Môn sydd wedi ei warchod.
Roedd Selonda UK wedi cyfaddef gollwng "elifion a chemegau" ar dir ym Mhenmon.
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon fod soda costig wedi gollwng o danciau glanhau, gan lygru'r môr a channu rhan o glogwyn.
Cafodd y cwmni, sydd yn nwylo'r gweinyddwyr, orchymyn i dalu £8,000 mewn costau hefyd.
Roedd Selonda UK hefyd wedi cyfaddef ail drosedd o fethu â chydymffurfio ag amodau eu trwydded amgylcheddol.
Clywodd y llys nad oedd y cwmni wedi wynebu eu cyfrifoldebau amgylcheddol fel y dylen nhw, ac mai dim ond amser fyddai'n dangos a oedd 'na effaith hirdymor ar yr ardal.
Dywedodd y barnwr rhanbarth Andrew Shaw fod asid hydroclorig wedi gollwng o danciau glanhau mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ardal gadwraeth.
Ychwanegodd yr erlyniad fod y problemau wedi'u datrys wedi i'r safle ddod o dan reolaeth newydd.
Straeon perthnasol
- 5 Ionawr 2012
- 6 Rhagfyr 2011
- 26 Hydref 2011
- 23 Gorffennaf 2010
- 5 Gorffennaf 2002