Gwleidyddion yn ymchwilio i bêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn casglu safbwyntiau a syniadau am ddyfodol Uwch Gynghrair Bêl-droed Cymru.
Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ymchwiliad a fydd yn archwilio materion gan gynnwys fformat cystadlaethau, datblygiad a chynnydd chwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr, a dyfodol y gynghrair.
Cafodd y gynghrair ei sefydlu yn 1992.
Roedd 19 o dimau yn y gynghrair yn y flwyddyn gyntaf honno. Erbyn hyn 12 o dimau sydd yno.
Datblygiad?
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad fydd:
- Y graddau y mae safonau pêl-droed yn Uwchgynghrair Cymru wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf;
- Fformat y gystadleuaeth, ac edrych ar opsiynau posibl eraill, fel newid i gael tymor dros yr haf;
- Datblygiad a chynnydd chwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr o Uwchgynghrair Cymru i gyrraedd lefelau eraill yn y gêm;
- Sut y bydd Uwchgynghrair Cymru yn cyfrannu at ddatblygu chwaraewyr ac at gymryd rhan yn y gêm ar lefelau is, gan gynnwys materion sy'n ymwneud â chyfleoedd cyfartal;
- Safle Uwchgynghrair Cymru yn y byd chwaraeon yng Nghymru a pha mor weladwy yw yn y cyfryngau yng Nghymru;
- Y clybiau sy'n aelodau o'r gynghrair, eu seilwaith a'u hadnoddau;
- Sut y bydd Cynllun Strategol 2012 diweddar Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyfrannu at gryfhau Uwchgynghrair Cymru, a sut y bydd Uwchgynghrair Cymru yn cyfrannu at amcanion y Cynllun Strategol.
'Angerdd'
"Mae rhai o chwaraewyr pêl-droed gorau'r byd yn dod o Gymru ac mae angerdd cefnogwyr pêl-droed Cymru heb ei ail," meddai Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
"Er bod llawer yn dilyn Uwchgynghrair Bêl-droed Cymru yn ffyddlon ar draws Cymru mae'r pwyllgor yn awyddus i sefydlu ei gyfraniad i bêl-droed Cymru a'i rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
"Mae gan gefnogwyr pêl-droed Cymru bob amser farn am y gêm ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n dewis rhannu rhai o'u safbwyntiau â ni."
Gall unrhyw un sydd eisiau cyflwyno gwybodaeth neu dystiolaeth yn rhan o'r ymchwiliad naill ai anfon ebost i Pwyllgor.CCLLL@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Glerc y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA
Y dyddiad cau i gyflwyno gwybodaeth neu dystiolaeth yw Ebrill 13 2012.