Cyngor yn diddymu cynllun tai dadleuol
- Cyhoeddwyd

Ni fydd tai yn cael eu hadeiladu ar safle dadleuol yn Sebastapol, ger Pont-y-pŵl wedi i Gyngor Torfaen bleidleisio i'w hepgor o'r Cynllun Datblygu Lleol.
Cafodd cynllun De Sebastapol ei drafod gyntaf dros ddegawd yn ôl, ond bu gwrthwynebiad chwyrn yn lleol yng nghanol pryderon am drafnidiaeth, bywyd gwyllt ac eraill.
Roedd yr awdurdod lleol eisoes wedi gwrthod cynlluniau y llynedd gan gwmni Barratt Homes ar ran consortiwm oedd am godi 1,200 o dai ar hen dir fferm.
Roedd Barratt wedi gweithio am dros ddegawd ar y datblygiad gyda chwmni Taylor Wimpey a Llywodraeth Cymru.
Pan gafodd eu cynllun ei wrthod dywedodd y cwmni eu bod yn siomedig a'u bod yn ystyried y sefyllfa.
Annhebygol
Yn dilyn adroddiad gafodd ei drafod gan gynghorwyr mewn cyfarfod arbennig y mis diwethaf, mae gwaith adeiladu ar y safle bellach yn ymddangos yn annhebygol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod lleol bod cynghorwyr wedi cytuno i "ddiddymu Ardal Weithredu Strategol De Sebastapol o'r Cynllun Datblygu Lleol, ac i leihau'r nifer o dai arfaethedig o 690 o gartrefi".
Ychwanegodd y llefarydd: "Nod y cynllun yw penderfynu ar ddefnydd tir yn Nhorfaen hyd at 2021.
"Bydd y cyngor nawr yn ymgynghori ymhellach ar y newidiadau terfynol cyn cyflwyno'r Cynllun Datblygu Lleol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddo gael ei archwilio gan arolygydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2011