Neges Carwyn Jones i America
- Cyhoeddwyd

Bydd y Prif Weinidog yn dweud wrth fusnesau twristiaeth, ceir, ac amddiffyn America fod Cymru yn agored i fasnach pan fydd yn teithio i'r Unol Daleithiau.
Mae gan Mr Jones gyfarfodydd yn Efrog Newydd a Washington yn ystod ei ymweliad pum niwrnod.
Dywedodd fod rhaid i Gymru "werthu ei hun" i fuddsoddwyr o dramor.
Mae ei sylwadau yn dilyn dau adroddiad sy'n beirniadu Cymru am ei record wrth geisio denu buddsoddiad o dramor.
'Lle gwych'
Wrth siarad cyn ymadael ddydd Mercher, dywedodd Mr Jones: "Rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwerthu ein hunain i weddill y byd, a dweud wrth y byd fod Cymru yn lle gwych i fuddsoddi ynddo."
Roedd yn gwadu fod gan Gymru broblem gyda'i delwedd dramor gan nodi "llwyddiant ysgubol" cystadleuaeth golff Cwpan Ryder 2010 yng Nghasnewydd.
"Yr hyn sy'n rhaid gwneud wrth gwrs yw sicrhau bod gennym bresenoldeb mewn gwledydd pwysig fel yr Unol Daleithiau, fel China, fel India," meddai.
"Os na wnawn ni hynny yna wrth gwrs fydd yr Unol Daleithiau ddim â diddordeb ynom ni."
Colli cyfle
Dywed Llywodraeth Cymru bod tua 210 o gwmnïau yng Nghymru naill ai â'u perchnogion yn yr Unol Daleithiau neu eu pencadlysoedd yno yn cyflogi tua 30,000 o bobl.
Mewn adroddiad y mis diwethaf, dywedodd aelodau Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin bod cyfleoedd buddsoddi wedi eu colli ers diddymu Awdurdod Datblygu Cymru yn 2006.
Roedd astudiaeth cyn hynny gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn dweud bod Cymru y tu ôl i bron bob rhan arall o'r DU o safbwynt denu cwmnïau a swyddi o dramor.
Cysylltiadau
Mae trafodaethau ar y gweill i agor swyddfa is-gennad China yng Nghymru,
Dywedodd Mr Jones bod prifysgolion o Gymru wedi sefydlu cysylltiadau ymchwil gyda China yn dilyn ei ymweliad yno fis Hydref y llynedd.
Wedi'r ymweliad, ysgrifennodd at Brif Weinidog y DU i gwyno ei fod wedi profi "canfyddiadau negyddol" o'r DU yn sgil y terfysgoedd yn Lloegr yr haf diwethaf. Dywedodd hefyd bod canfyddiad yno fod strategaeth economaidd y DU "yn seiliedig ar doriadau yn hytrach na thwf".
Bydd Mr Jones yn hedfan i India ym mis Ebrill i arwain taith fasnach i Mumbai a Bangalore.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011