Admiral: Elw o £300 miliwn

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Admiral yn AbertaweFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae gan y cwmni fwy o gwsmeriaid

Fe wnaeth cwmni yswiriant Admiral, sy'n cyflogi dros 4,500 o bobl yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, elw o bron £300 miliwn cyn treth y llynedd, cynnydd o 13%.

Bu cynnydd o 22% yn nifer y cwsmeriaid.

Hon yw'r wythfed flwyddyn yn olynol i Admiral gofnodi mwy o elw.

Bydd pob aelod staff yn derbyn cyfranddaliadau gwerth £3,000 am ddim oherwydd y cynllun rhannu elw.

Mae Admiral yn berchen ar frandiau Confused.com, Elephant.co.uk a Diamond.

Dywedodd Henry Engelhardt, prif weithredwr y grŵp: "Rydym yn hyderus wrth wynebu 2012. Rydym yn parhau i gynyddu elw ac mae'r staff yn ymroi'n llwyr i'r cwmni ac yn sicrhau llwyddiant y cwmni ar gyfer y dyfodol.

Mae cadeirydd y grŵp, Alastair Lyons, wedi dweud mai'r elw cyn treth oedd £299m.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol