Enwi rhan o briffordd yr A470 ar ôl catrawd
- Cyhoeddwyd

Mae rhan o'r A470 wedi cael enw newydd er mwyn anrhydeddu cartrawd.
Yr enw newydd ar y ffordd rhwng Llandudno a Cyffordd Llandudno yw Ffordd y Cymry Brenhinol.
Un o gynghorwyr Cyngor Conwy oedd wedi arwain yr ymgyrch ar wefan Facebook a chafodd y dogfennau ailenwi eu harwyddo ar Fawrth 1.
Mae disgwyl seremoni yn dadorchuddio'r enw newydd ym mis Ebrill.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley: "Rwy'n teimlo mor falch ac roedd o'n deimlad arbennig fod y gorchymyn yn caniatáu'r newid enw wedi ei arwyddo ar Ddydd Gŵyl Dewi. "
Afghanistan
Dechreuodd yr ymgyrch ym mis Tachwedd.
Gobaith yr ymgyrchwyr yw y bydd y seremoni cyn i'r gatrawd orfod mynd i Afghanistan yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Thomas, cyn Uwchgapten gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig, ei fod wedi rhoi gwybod i'r gatrawd.
"Maen nhw'n hynod falch," meddai Mr Priestley. "Mae'n anrhydedd fawr ac maen nhw'n aros yn eiddgar am y dadorchuddio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2009
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2010