Gwrandawiad llafar yn erbyn uno ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol PantycelynFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Y bwriad yw cau Ysgol Pantycelyn a sefydlu ysgol newydd yn Ffairfach

Mae rhieni sy'n ymgyrchu yn erbyn cynllun i uno dwy ysgol yn disgwyl clywed a fyddan nhw'n cael parhau â'u brwydr gyfreithiol.

Fis diwethaf fe wnaeth barnwr wrthod cais am adolygiad barnwrol o fwriad Cyngor Sir Caerfyrddin i uno ysgolion Pantycelyn (Llanymddyfri) a Thregib (Llandeilo).

Yn dilyn y penderfyniad fe wnaeth Grŵp Ymgyrchu Pantycelyn gais am wrandawiad llafar gerbron barnwr gwahanol.

Bydd y gwrandawiad newydd ddydd Iau.

Mae'r grŵp ymgyrchu wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus ddydd Gwener yng Ngwesty'r Castell yn Llanymddyfri.

Bwriad y cyngor yw uno'r ddwy ysgol uwchradd gan godi ysgol newydd yn Ffairfach, Llandeilo.

Mae nifer o rieni yn Llanymddyfri yn gwrthwynebu'r lleoliad, safle sy'n 15 milltir o Lanymddyfri.

Mae'n rhan o gynllun ad-drefnu ehangach gan y cyngor ar gyfer ysgolion dwyrain y sir.

£23.7 miliwn

Mae'r cyngor wedi sicrhau cyllideb o £23.7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru i godi ysgol newydd.

Wrth wrthod y cais gwreiddiol am adolygiad barnwrol dywedodd y barnwr Milwyn Jarman QC : "Cafodd y penderfyniad ei wneud am resymau addysgiadol, demograffig ac ariannol am ei fod yn amlwg nad yw Ysgol Pantycelyn wedi bod yn llawn, yn gorwario ers sawl blwyddyn a bod ysgolion eraill yr ardal â mwy o ddisgyblion nag o lefydd ac y byddai'r duedd hon yn debygol o barhau.

"Roedd y broses benderfynu'n hir oedd yn cynnwys asesiadau cymunedol a thraffig ymysg asesiadau eraill fel rhan o gyfnodau ymgynghorol ffurfiol ac anffurfiol.

"Mae'n amlwg o'r asesiadau hyn fod y materion wedi'u hystyried yn briodol.

"Roedd y safle gafodd ei ddewis yn amlwg yn ffurfio rhan o ddadansoddiad y safle er ei fod yn rhan o ardal fwy o dir.

"Cafwyd rhesymau clir a diogel o ran ffafrio'r safle."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol