Cwblhau'r gwaith o adfywio mawndir

  • Cyhoeddwyd
Peiriant cloddioFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Nod y prosiect yw defnyddio’r mewndir i wella'r amgylchedd

Bydd prosiect sy'n adfer tir mawnog er mwyn gwella'r amgylchfyd yn cael ei gwblhau ddydd Iau.

Mae £300,000 wedi ei wario ar y cynllun ar Y Migneint yng Ngwynedd.

Ers degawdau mae'r mawn wedi ei ddinistrio wrth i amaethwyr ac eraill ddraenio'r tir.

Y Migneint, yr ardal i'r gogledd ddwyrain o Flaenau Ffestiniog, ynghyd â'r Berwyn yw'r ddwy ardal o dir mawn mwyaf yng Nghymru.

Erbyn hyn mae nifer o argloddiau wedi eu gosod yn yr ardal er mwyn cronni'r dŵr mewn cynllun dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn ôl yr elusen mae tir mawnog yn fwy effeithiol fesul acer na fforest law'r Amazon wrth atal nwyon tŷ gwydr niweidiol rhag dianc i'r amgylchfyd.

Credir bod 4% o dir mawnog dyfnaf ac effeithiol y byd yng Nghymru.

Ond er bod mewndiroedd iach yn storio carbon ac yn tynnu carbon deuocsid niweidiol o'r atmosffer, bydd mewndir sydd wedi ei ddifrodi'n rhyddhau nwyon tŷ gwydr.

Gwella bywyd gwyllt

"Mewn llai na 13 mis mae dros 30,000 o argloddiau wedi eu hadeiladu a 300km o ddraeniau wedi eu cau," meddai Helen Buckingham, o'r Ymddiriedolaeth.

"Drwy flocio ffosydd draenio ac ail-wlychu mewndir gallwn leihau allyriadau carbon o 2.6 tunnell yr hectar, sef yr un faint â rhedeg car teuluol cyffredin am flwyddyn."

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr arglawdd olaf yn cael ei osod ar Fawrth 8

Yn ôl Trystan Edwards ymgynghorydd bwyd a ffermio gyda'r Ymddiriedolaeth bydd y gwaith hefyd yn arwain at wellhad ym mywyd gwyllt yr ardal.

"Roedd y draeniau yn golygu fod dŵr yn cael ei dynnu allan mor sydyn mewn gwirionedd fel ei fod yn erydu'r mawn, yn stripio'r gors, yn cafnu sianelau dwfn ac yn tynnu asid allan o'r mawn ac i mewn i'r dŵr gan fygwth dyfodol pob rhywogaeth ddyfrol yn y cyrsiau dŵr i lawr yr afon."

Fe wnaeth y prosiect dderbyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Afonydd a buddsoddiad gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.