Ysbyty Tywysog Philip: Cyflwyno deiseb i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Tywysog PhilipFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud nad oes 'na gynlluniau i is-raddio'r ysbyty

Mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno deiseb i'r Senedd ym Mae Caerdydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Mae 'na bryderon na fydd yr ysbyty yn goroesi os bydd gwasanaethau'n cael eu hisraddio neu eu hadleoli.

Ond mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi dweud nad oes 'na gynlluniau i is-raddio'r ysbyty.

Ym mis Chwefror roedd 400 mewn cyfarfod cyhoeddus yn trafod eu pryderon am ddyfodol Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys yr ysbyty.

Eisoes mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ac nad oedd llawer o wasanaethau arbenigol yn yr ysbyty.

'Gwrando'

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd y bwrdd iechyd gynlluniau posib i newid darpariaeth gofal brys yn ysbytai'r canolbarth a'r gorllewin.

Ym mhob opsiwn fe fyddai'r uned ddamweiniau yn Llanelli yn cael ei hisraddio'n "ganolfan gofal brys" gyda'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn ar gael yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae'r bwrdd wedi dweud eu bod yn "gwrando ar y farn leol" cyn yr ymgynghori ffurfiol.

"Mae mwyafrif y gofal (80%) sy'n cael ei gynnig yn yr adran yn Llanelli'n ymwneud â mân driniaethau ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos," meddai datganiad y bwrdd iechyd.

"Fe fydd yr un gwasanaethau yn parhau yno yn y ganolfan gofal brys.

"Gall trigolion Llanelli fod yn ffyddiog fod dyfodol yr ysbyty fel darparwr gofal iechyd yn ddiogel ac y byddan nhw'n parhau i gael eu gwasanaethu gan ysbytai lleol, gan gynnwys Glangwili a Threforys."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol