Aelod arall yn nhîm Prydain yn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Jemma LoweFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Daeth Jemma Lowe yn ail yn y ras dros 200 metr

Mae gan Gymru aelod arall yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yr haf hwn.

Yn y pwll Olympaidd yn Llundain nos Fercher, fe ddaeth Jemma Lowe o Abertawe yn ail yn y ras dros 200 metr yn y dull Pili Pala.

Fe fydd Jemma yn ymuno â Georgia Davies a Ieuan Lloyd yn y tîm nofio.

Mae'r treialon hefyd yn gyfle i'r nofwyr Paralympaidd hawlio eu lle yn y Gemau.

Mae'r Cymro David Roberts wedi gorfod tynnu'n ôl oherwydd salwch ond mae Eleanor Simmonds, sy'n hyfforddi yn Abertawe, wedi sicrhau ei lle hi yn y Gemau Paralympaidd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol