Wrecsam 2-0 Luton
- Cyhoeddwyd

Roedd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ymwybodol eu bod angen buddugoliaeth yn erbyn Luton ar y Cae Ras nos Fercher.
Nos Fawrth fe gafodd Fleetwood fuddugoliaeth gyda gôl yn y funud olaf i agor bwlch o wyth pwynt ar frig tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet.
Ond roedd buddugoliaeth Wrecsam yn un gyfforddus nos Fercher yn erbyn y tîm sy'n drydydd ar hyn o bryd, sef Luton, gan ddod â rhediad o berfformiadau siomedig i ben.
Sgoriodd Danny Wright ar ôl chwe munud wrth benio croesiad Mathias Pogba.
Y chwaraeodd canol cae Dean Keates ddyblodd y fantais gydag ergyd 20 llath i gornel uchaf y rhwyd.
Mae gan Wrecsam gêm wrth gefn, ac mae'n rhaid i Fleetwood groesawu'r Dreigiau ym mis Ebrill.
TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE