Brighton 2-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Gôl hwyr y Cymro Sam Vokes achubodd bwynt i Brighton nos Fercher yn Stadiwm Amex wrth i Gaerdydd geisio rhoi'r trên i ddyrchafiad yn ôl ar y cledrau.
Joe Mason sgoriodd yn gyntaf dros Yr Adar Gleision ar ôl i Brighton fethu â chlirio croesiad Don Cowie.
Ashley Barnes ddaeth â Brighton yn gyfartal wrth gael blaen ei droed i groesiad Craig Noone.
Chwip o ergyd gan Peter Whittingham roddodd Caerdydd nôl ar y blaen, cyn i Vokes sicrhau bod y pwyntiau yn cael eu rhannu.
Wrth i sylw'r cefnogwyr, a rhai o'r chwaraewyr o bosib, droi at Wembley dros yr wythnosau diwethaf, mae ymgyrch yr Adar Gleision i ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair wedi cael sawl ergyd.
Nid yw tîm Malky Mackay wedi ennill oddi cartref yn 2012.
Yn gynharach yn yr wythnos, fe gyfaddefodd Malky Mackay nad yw'n credu y gall Caerdydd orffen yn y ddau safle uchaf, ac felly cael eu dyrchafu'n syth.
Y gemau ail gyfle yw'r nod felly, ac nid yw honno'n dasg amhosib o ystyried fod gan Gaerdydd gemau wrth gefn ar nifer o'r timau uwch eu pennau.