Diarddel nyrs am honni fod ganddi ganser
- Cyhoeddwyd

Mae nyrs wedi cael ei diarddel o'r proffesiwn am honni ei bod yn diodde' o ganser er mwyn osgoi camau disgyblu yn ei herbyn.
Cafodd enw Anna Hulse, 49 oed o Ynys Môn, ei dynnu oddi ar y gofrestr nyrsio am gyfnod amhenodol.
Penderfynodd panel disgyblu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ddydd Mercher bod ei hymddygiad mor ddifrifol fel y gorchmynnodd waharddiad am 18 mis yn syth.
Hyd yn oed petai Ms Hulse yn apelio yn erbyn y dyfarniad o fewn y 28 niwrnod statudol, ni fydd yn cael gweithio fel nyrs yn y cyfamser.
Roedd y panel yn ystyried ei throsedd mor ddifrifol fel y bydd rhaid iddi aros am bum mlynedd cyn gwneud cais i godi'r gwaharddiad.
Absenoldeb
Fe ddaeth penderfyniad y panel wedi gwrandawiad tri diwrnod yng Nghaerdydd, ond nid oedd Hulse yn bresennol yn y gwrandawiad.
Drwy beidio â bod yno, dywedodd cadeirydd y panel, Cheryl Beach, ei bod wedi "ildio unrhyw obaith o berswadio'r panel i fod yn drugarog".
Roedd Hulse yn gweithio fel uwch nyrs gyda Heddlu Gogledd Cymru pan benderfynodd ei phenaethiaid i gymryd camau disgyblu yn ei herbyn oherwydd ei habsenoldeb cyson o'r gwaith.
Roedd yn arwain tîm o 18 o nyrsys oedd wedi bod yn absennol am 200 niwrnod yn ystod y tair blynedd yn arwain at Awst 2008.
Hulse ei hun oedd y gwaethaf, a bu'n absennol am 69 diwrnod yn y cyfnod hwnnw gan gynnwys 24 mewn llai nag un flwyddyn.
Honiadau
Pan gafodd gynnig cymorth i wella ei record o bresenoldeb, fe honnodd fod ganddi ganser y gwddf.
Cafodd don o gydymdeimlad yn y gweithle, ond roedd ei phennaeth yn amau ei bod yn dweud celwydd.
Fe ddaeth Hulse ag achos o fwlio ac aflonyddwch yn y gweithle yn erbyn y pennaeth - Robert Adams - mewn ymgais i'w ddifrïo.
Yn y gwrandawiad ddydd Mercher roedd Mr Adams yn hallt ei feirniadaeth o Heddlu'r Gogledd gan ddweud nad oedd penaethiaid yn ei gredu pan wnaeth rybuddio y gallai Hulse fod yn dweud celwydd.
Dywedodd: "Fe ddylai fod wedi cael ei harestio am drosedd o gael arian trwy dwyll.
"Pan ddywedodd fod ganddi ganser y gwddf roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy."
Oherwydd honiad Hulse yn erbyn Mr Adams, fe gafodd barhau yn ei swydd £40,000 am dros flwyddyn wrth i'r ymchwiliad i'r honiadau ddigwydd.
Fe gafwyd Mr Adams yn ddieuog o unrhyw drosedd, ac fe aeth yr heddlu at feddyg teulu Hulse a ddywedodd nad oedd erioed wedi dioddef o ganser.
Ymddiswyddodd Hulse o'r heddlu ddyddiau cyn gwrandawiad disgyblu am gamymddwyn difrifol.
Cafodd panel disgyblu'r NMC wybod nad oedd bellach yn gweithio fel nyrs, a'i bod am osgoi'r embaras o fynd i'r gwrandawiad.