Neuadd yn ail-agor wedi tân
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y llen yn codi ar yr adeilad newydd wrth i gyngerdd gael ei gynnal yn Neuadd Gwyn nos Iau Mawrth 8. Cafodd £10 miliwn ei wario ar adnewyddu'r adeilad wedi'r tân ym mis Hydref 2007.

Difrodwyd yr adeilad a godwyd yn wreiddiol yn 1887 gan y tân. Cragen yn unig i bob pwrpas oedd ar ôl. Yn fuan wedi'r digwyddodd fe wnaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot addewid o adfer yr adeilad. Llun y tân gan Mike Davies.
Gan ei fod yn adeilad cofrestredig bu'n rhaid adfer y bensaernïaeth wreiddiol. Mae yno bellach theatr sinema, ystafelloedd ymarfer a chaffi.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Ali Thomas, y bydd y gwaith ar Neuadd Gwyn yn gychwyn ar waith adfywio canol y dref
Fe fydd y cyngerdd agoriadol nos Iau yn y brif theatr ac mae rhaglen lawn o weithgareddau yn cael eu trefnu.
Aelod cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot sydd â chyfrifoldeb am adfywio, David Lewis, yn edrych ar y cyfleusterau - gan gynnwys yr ystafell ddawns - all gael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau
Dywedodd Mr Lewis bod y gwaith pensaernïol wedi eu gwneud yn arbennig iawn. "Mae'n adeilad cwbl wahanol tu mewn," meddai.
Ychwanegodd Mr Lewis bod y gwaith wedi "gosod safon" ar gyfer prosiectau adfywio eraill yn ne Cymru.
Mae'r sinema yn dychwelyd i Gastell-nedd am y tro cyntaf mewn dros 20 mlynedd. Dywed rheolwr gyffredinol y neuadd, Steve Jones, mai'r ffilm John Carter fydd y cyntaf i'w gweld yno gan ei bod yn sinema 3D
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2012