Dyn yn yr ysbyty wedi ladrad treisgar yn Llansawel

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yng Nghastell-nedd yn ymchwilio i ladrad treisgar ddigwyddodd yn Llansawel yn oriau man fore Mercher.

Cafodd dyn 27 oed anafiadau i'w ben wedi i dri dyn fynd i'w fflat uwchben clwb JKs ar Ffordd Castell-nedd am tua 4:30am.

Mae'r dyn yn derbyn triniaeth am ei anafiadau yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi disgrifiad o'r tri dyn aeth i'r fflat:-

  • Dyn 1 - 20au cynnar a thua 5 troedfedd 5 modreff o daldra a chorff cymhedrol gyda gwallt melyn wedi eillio. Roedd ganddo stydiau aur yn ei glustiau ac roedd yn gwisgo sgarff gwyn dros ei wyneb a'i geg;
  • Dyn 2 - 20au cynnar a thua 5 troedfedd 5 modfedd o daldra gyda chorff main a gwallt byr brown. Roedd yn siarad gydag acen Birmingham o bosib;
  • Dyn 3 - 20 oed a thua 5 troedfedd 2 modfedd o daldra gyda chorff tew a gwallt brown hir. Cyfeiriwyd ato fel "George" yn ystod y digwyddiad;
  • Roedd y tri yn gwisgo dillad chwaraeon.

Apêl

"Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn pan aeth tri dyn, am resymau sydd ddim eto'n amlwg, i mewn i fflat a churo dyn sawl gwaith gan achosi anafiadau niferus i'w ben a'i gorff," meddai'r Ditectif Arolygydd David Hough.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn anghyffredin yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwydd, yn gwybod unrhyw reswm posib amdano neu yn adnabod y rhai oedd yn gyfrifol i gysylltu gyda ni."

Mae'r heddlu yn gofyn i bobl a welodd unrhyw weithgaredd amheus yn yr ardal yn ystod y cyfnod dan sylw i ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.